Trosolwg o'r Cwrs
A yw'r syniad o weithio i gwmni ariannol mawr yn eich cyffroi? A ydych yn gweld eich hun yn gweithio i rywun fel Barclays, HSBC neu PwC?
Gallai'r cwrs gradd BSc Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Economeg, y cwrs BSc Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes economeg, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Economeg yn yr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Gall gradd mewn Economeg arwain at amrywiaeth enfawr o yrfaoedd, o fancio buddsoddi ac ymgynghoriaeth rheoli i wleidyddiaeth a swyddi rheoli mewn sefydliadau byd-eang. Mae gan Brifysgol Abertawe enw da iawn am gynhyrchu graddedigion o'r radd flaenaf y mae llawer ohonynt wedi symud ymlaen i weithio gyda'r cwmnïau ariannol mwyaf blaenllaw yn y byd.