Trosolwg o'r Cwrs
Wrth i dechnoleg, trafnidiaeth, ac economi ryngwladol gymhleth leihau ein byd, mae gwerth perthnasoedd heddychlon a chydweithredol rhwng cenhedloedd yn gynyddol bwysig.
Mae cysylltiadau rhyngwladol yn agwedd hanfodol ar ddinasyddiaeth mewn cymdeithas fyd-eang, ac mae ein gradd BA Cysylltiadau Rhyngwladol ag Ieithoedd Modern yn un o’r rhaglenni gradd pwysicaf a gynigiwn.
Mae’r maes astudio diddorol hwn yn archwilio globaleiddio a sefydliadau byd-eang, datblygiad a hawliau dynol, gwleidyddiaeth ryngwladol a rhanbarthol, heddwch a gwrthdaro, economi wleidyddol, astudiaethau diogelwch ac astudiaethau strategol a byddwch yn dysgu sut mae pŵer, sefydliadau a chyfreithiau yn effeithio ar ein bywyd o ddydd i ddydd.
Byddwch hefyd yn astudio iaith ar lefel uwch (ôl-A) neu lefel dechreuwyr - Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg - yn ogystal â modiwlau galwedigaethol mewn cyfieithu a'ch iaith astudio ar gyfer byd gwaith.
Gellir astudio'r cwrs fel cwrs tair blynedd, neu gallwch ymestyn eich astudiaethau am flwyddyn trwy wneud Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant*. Bydd yr opsiynau ychwanegol hyn yn eich galluogi i wella eich profiad myfyriwr ymhellach drwy roi mynediad i chi at fewnwelediadau diwylliannol unigryw a chyfleoedd seiliedig ar sgiliau.