Trosolwg o'r Cwrs
Bydd astudio gradd mewn Cymdeithaseg yn rhoi'r sylfaen ddamcaniaethol hanfodol sydd ei hangen arnoch i ddeall ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol, yn ogystal â'r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd ehangach sy'n dylanwadu ar ein cymdeithas sy'n newid yn barhaus.
Byddwch yn dysgu sut i ffurfio gwybodaeth newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau ymchwil ansoddol a meintiol, o arolygon cymdeithasol mawr a ddehonglir drwy ystadegau i gyfweliadau manwl ag unigolion a grwpiau bach.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil, cyfathrebu a chyflwyno ardderchog, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi tystiolaeth a'i gwerthuso'n feirniadol a llunio dadleuon mewn perthynas â'r materion cymdeithasol cymhleth sy'n effeithio ar bob un ohonom.