Trosolwg o'r Cwrs
Yr hyn sydd ei angen ar fodau dynol a'r ffordd y mae cymdeithasau'n diwallu'r anghenion hynny sydd wrth wraidd polisi cymdeithasol. Bydd ein cwrs gradd rhagorol a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Polisi Cymdeithasol yn cyflwyno’r damcaniaethau a dadleuon allweddol sy'n sail i'r maes diddorol hwn sy'n datblygu'n barhaus.
Byddwch yn ymchwilio i'r ffordd y mae cymdeithas yn hyrwyddo llesiant ei haelodau, gan ystyried themâu a gwerthoedd fel cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, tegwch a dinasyddiaeth, ochr yn ochr ag elfennau penodol sy'n ganolog i bolisïau fel iechyd, addysg, tai, anabledd, trosedd, tlodi a'r teulu.
Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyfleu eich syniadau'n effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau.