Trosolwg o'r Cwrs
Mae gan y rhaglen BSc hon nodweddion a fydd yn eich helpu i gydbwyso eich ymrwymiadau ar draws pedair blynedd y cwrs: wythnos dysgu 30 awr, cyfnodau astudio byrrach ac ymagwedd hybrid o addysgu ar-lein ac ar y campws, yn ogystal â lwfans uwch o wyliau blynyddol a hyblygrwydd i reoli oriau ymarfer clinigol drwy gydol yr wythnos.
Mae ein cwricwlwm wedi cael ei ddatblygu i ymateb i newidiadau mewn cymdeithas a gofal iechyd, a bydd eich dysgu yn adlewyrchu disgwyliadau'r cyhoedd o'r proffesiwn nyrsio. Bydd myfyrwyr yn treulio 50% o'u hamser ar y rhaglen mewn lleoliadau clinigol a chymunedol, felly byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r profiad i ddarparu gofal nyrsio mwy diogel, tosturiol ac effeithiol.
Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gennych gyfle i fanteisio ar amrywiaeth eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai ac yn y gymuned.