Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
Cewch eich addysgu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, grwpiau trafod, cyflwyniadau, trafodaethau, trafodaethau ar-lein, a thasgau dysgu grŵp ac unigol, mewn 7-10 awr dros gyfnod o dridiau.
Caiff y dysgu ei asesu drwy draethodau, cyflwyniadau, arholiadau a phrofion ymarferol. Cewch fanteision ar rwydwaith mentora academaidd a gwasanaethau cymorth myfyrwyr drwy gydol eich astudiaethau.
Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn cael cyfle i ddewis modiwl lleoliad gwaith gyda lleoliadau ar gael mewn sefydliadau gwirfoddol, gwasanaethau cymdeithasol mewn cynghorau, gwasanaethau addysgol, gwasanaethau byw â chymorth, a llawer mwy.