Lleolir yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe yn ein Ffowndri Gyfrifiadol ragorol ar Gampws y Bae, ar ei safle trawiadol ar lan y môr. Mae'r cyfleuster o’r radd flaenaf gwerth £32.5 miliwn yn darparu'r cyfleusterau addysgu ac ymchwil o safon diweddaraf yn ogystal â chynnig lle i bartneriaid diwydiannol gydweithio â ni, profi syniadau newydd a lle i fyfyrwyr ac ymchwilwyr weithio ar broblemau'r byd go iawn mewn amgylchedd sy'n ysbrydoli.
