I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru
ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith
semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael
ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill
lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs
safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.
Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob ysgol. Fel arfer, mae rhaglenni'n
para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Sri Lanka, De Corea, Fiji, Bali,
UDA a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n Haf Dramor.
Efallai bod gennych eisoes y cyfle i astudio neu weithio dramor fel rhan o’ch gradd, ond gallwch hefyd ystyried rhaglen haf ryngwladol.
Mae'r rhaglenni ar agor i fyfyrwyr israddedig y Brifysgol ac ymhlith yr opsiynau mae teithiau astudio a diwylliannol, rhaglenni gwirfoddoli ac interniaethau ledled gwledydd tramor fel Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Ewrop a Chanada. Fel rheol, mae rhaglenni dros gyfnod o 2 – 6 wythnos ac mae cyllid ar gael. Am fwy o wybodaeth ewch i swansea.ac.uk/summerprogrammes.