Trosolwg o'r Cwrs
Pam bod technoleg ddigidol wedi ei dylunio yn y ffordd y mae? Pwy sy'n ei dylunio ac ar gyfer pwy mae'n ei dylunio? Ydych chi erioed wedi ystyried pam mai llais benywaidd yw llais rhagosodedig y cynorthwy-ydd llais? Beth yw cost go iawn cyfrifiadur cwmwl a deallusrwydd artiffisial? Sut gall technoleg helpu pobl yn gyntaf?
Mae'r cwrs gradd Technoleg Ddigidol yn cynnwys creu, archwilio'n feirniadol, a defnyddio data a systemau digidol, a'u heffaith ar gymdeithasau (ac amgylcheddau eraill) ledled y byd. Bydd cwmpas eang y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r byd digidol, a sut gellir creu a defnyddio technolegau digidol yn greadigol, yn gynhyrchiol ac yn ddiogel.
Drwy gydol y rhaglen sy'n para tair blynedd, byddwch yn dod ar draws pynciau a fydd yn ehangu eich gwerthfawrogiad o effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol Technoleg Ddigidol. Byddwch yn gallu defnyddio set o offer safonol y diwydiant i gynllunio, datblygu a chreu cynhyrchion digidol, yn amrywio o ymgyrchoedd marchnata i gemau cyfrifiadur.
Erbyn diwedd y radd, byddwch yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen i ddechrau mewn amrywiaeth o rolau digidol gwahanol ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau a gwasanaethau cyhoeddus. Hefyd, byddwch yn elwa o ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy sylweddol mewn ymchwil, cyfathrebu ac ymgysylltu.