Trosolwg o'r Cwrs
O'r we fyd-eang a rhwydweithiau ffonau symudol, i liniaduron, cerbydau trydanol, newid yn yr hinsawdd a ffynonellau ynni adnewyddadwy, mae'r pynciau hyn yn llywio'r byd o'n cwmpas bob dydd.
Mae galw mawr am raddedigion Peirianneg Electronig a Thrydanol medrus ac mae cyfleoedd iddynt weithio ym mhob cwr o'r byd.
Bydd y cwrs gradd hwn yn eich hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn swyddi ym maes trydan, electroneg a nanobeirianneg mewn amrywiaeth o sectorau.
Byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddi wrth gael profiad ymarferol o gyfarpar arbenigol uwch, gan feithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant.