Trosolwg o'r Cwrs
Bydd astudio BSc mewn Seicoleg gyda Blwyddyn Sylfaen yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng yr ymennydd, y cof ac ymddygiad.
Bydd y flwyddyn sylfaen o'r cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i'r prif gysyniadau a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i'r BSc mewn Seicoleg. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.
Bydd y flwyddyn sylfaen (lefel 3) yn cael ei chyflwyno gan y Coleg, Prifysgol Abertawe (TCSU). Bydd Blynyddoedd 2-4 (lefelau 4-6) yn cael eu cyflwyno gan Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.
Byddwch yn astudio’r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy’n sail i weithgareddau megis meddwl, rhesymu, cof ac iaith. Hefyd byddwch yn dysgu am ganlyniadau anafiadau i’r ymennydd ac yn archwilio ffyrdd o wella ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi beirniadol rhagorol, yn ogystal â lefel uchel o allu rhifedd a TG.
Mae ein hymagwedd at addysgu, sy'n cynnwys darlithoedd, tiwtorialau personol, seminarau academaidd, gweithdai a dosbarthiadau ymchwil ymarferol, yn annog sgiliau gweithio effeithiol fel tîm a chyfathrebu llafar o safon.