Trosolwg o'r Cwrs
Gallwch gyfuno eich gradd yn y Gyfraith ag archwilio gwleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â lleoliad gwaith proffesiynol am flwyddyn drwy ein LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Gwleidyddiaeth.
Mae'r rhaglen hon am bedair blynedd yn darparu sylfaen gynhwysfawr o'r meysydd craidd sy'n rhan o radd yn y Gyfraith. Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddewis o blith ystod eang o feysydd pwnc arbenigol yn y gyfraith gyda rhestr helaeth o dros ddeugain o fodiwlau dewisol i ddewis ohonynt. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn gwneud interniaeth â thâl mewn lleoliad cyfreithiol, a fydd yn eich galluogi i gael profiad uniongyrchol o ymarfer y gyfraith, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn hynod ddefnyddiol yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn astudio agweddau allweddol ar wleidyddiaeth Prydain a rhyngwladol, polisi cyhoeddus, damcaniaeth wleidyddol, athroniaeth, a heddwch a gwrthdaro.
Drwy gydol eich gradd byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddol rhagorol, gan ddysgu cyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn elwa o'n dull a arweinir gan ymarfer o ymdrin â'r gyfraith a'i pherthynas â gwleidyddiaeth.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.
Os hoffech gwblhau gradd LLB 3 blynedd heb flwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB yn y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth.