Trosolwg o'r Cwrs
Gall gradd mewn Economeg arwain at amrywiaeth enfawr o yrfaoedd, o fancio buddsoddi ac ymgynghoriaeth rheoli i wleidyddiaeth a swyddi rheoli mewn sefydliadau byd-eang.
Mae gan y cwrs gradd BSc Economeg ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn am gynhyrchu graddedigion o'r radd flaenaf y mae llawer ohonynt wedi symud ymlaen i weithio gyda'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd, fel Barclays, HSBC a PwC.
Caiff damcaniaeth economaidd ei haddysgu i chi, wedi'i chyfuno ag elfennau mathemategol ac ystadegol. Mae hyn yn helpu i ddatblygu'r adnoddau, y wybodaeth a'r technegau dadansoddi sydd eu hangen i ffynnu mewn swydd sy'n llawn boddhad ym maes economeg.
Caiff y cwrs BSc Economeg ei ddiweddaru'n gyson er mwyn parhau i fod yn berthnasol i'r byd modern go iawn, ac mae'r un mor addas i chi os ydych yn ystyried gyrfa fel economegydd, os ydych yn agored i weithio mewn gwahanol feysydd economaidd ac ariannol, neu os ydych yn ystyried llwybr estynedig astudiaethau ôl-raddedig.