Trosolwg o'r Cwrs
Gall gradd dda mewn Economeg a Busnes arwain at lawer o wahanol yrfaoedd, o fancio buddsoddi ac ymgynghoriaeth rheoli i wleidyddiaeth a swyddi rheoli mewn sefydliadau rhyngwladol.
Mae gan y cwrs gradd BSc Economeg a Busnes ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn am gynhyrchu graddedigion o safon uchel. Mae nifer o'r graddedigion hynny wedi symud ymlaen i weithio i'r cwmnïau mwyaf yn y byd fel Barclays, HSBC a PwC, a'r sefydliadau uchaf eu parch yn y byd, gan gynnwys nifer o gyrff llywodraethol.
Mae'r cwrs gradd hwn yn cyfuno elfennau craidd economeg a busnes, ac mae'n ddelfrydol os hoffech ddilyn gyrfa ym maes gwleidyddiaeth, polisi, busnes neu gyllid.
Bydd yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gadarn i chi o egwyddorion economaidd mewn perthynas ag amgylcheddau busnes, yn ogystal â'r technegau dadansoddi a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau a llunio strategaethau ym myd busnes.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymchwilio a chreu modelau yn hyderus er mwyn cynghori gwahanol fathau o sefydliadau. O fusnesau preifat i'r llywodraeth, gallwch gael effaith wirioneddol ar bolisi economaidd.