Trosolwg o'r Cwrs
Gall gradd mewn Economeg a Chyllid arwain at amrywiaeth wirioneddol o yrfaoedd, o fancio buddsoddi ac ymgynghoriaeth rheoli i swyddi cyllid ar lefel uwch mewn sefydliadau rhyngwladol.
Mae gan y cwrs gradd BSc Economeg a Chyllid ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn, ac mae wedi cynhyrchu graddedigion o safon uchel sydd wedi cael eu cyflogi gan y cwmnïau mwyaf yn y byd, fel Barclays, HSBC a PwC, a'r sefydliadau uchaf eu parch yn y byd, gan gynnwys sefydliadau ariannol mawr a chyrff llywodraethol.
Mae'r cwrs hwn yn cyfuno elfennau craidd economeg a chyllid ac yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o economeg fodern a'r ffordd y caiff ei chymhwyso yn y diwydiant ariannol.
Bydd y cyfle i ganolbwyntio ar feysydd arbenigol fel cyllid corfforaethol yn eich helpu i werthfawrogi'r gydberthynas rhwng dadansoddi economaidd a gweithrediadau ariannol.
Yn ystod eich astudiaethau, bydd arsylwi ar y ffordd y mae damcaniaeth yn effeithio ar ymarfer yn gwella eich galluoedd gwneud penderfyniadau strategol.
Erbyn i chi raddio, byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymchwilio a chreu modelau yn hyderus er mwyn cynghori gwahanol fathau o sefydliadau yn effeithiol.