Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn chwilio am radd mentergarwch a fydd yn eich helpu i sefyll allan drwy feddu ar y sgiliau arloesol sydd eu hangen i ddatblygu neu reoli busnes dynamig sy'n tyfu'n gyflym?
Mae astudio entrepreneuriaeth yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol i chi o fentergarwch, rôl entrepreneuriaid yn yr economi, a sut mae modelau busnes entrepreneuraidd yn llwyddo neu'n methu yn ymarferol.
Byddwch yn meithrin y sgiliau ymarferol a'r meddylfryd sydd eu hangen ar entrepreneur.
Y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yw'r rhaglen fwyaf sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n enwog am greu rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl yn fasnachol. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i weithio i rai o'r cwmnïau mwyaf yn y byd, gan gynnwys Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg a Tata.
Yn ogystal ag arbenigo mewn mentergarwch, bydd y cwrs Rheoli Busnes hwn yn eich galluogi i feithrin arbenigedd modern hanfodol mewn marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifyddu, strategaeth ac adnoddau dynol.