Prawf cymhwyster

Mae'r wybodaeth a roddir isod yn disgrifio'r meini prawf cymhwyster ar gyfer talu ffioedd Cartref (y DU), ffioedd yr UE neu ffioedd rhyngwladol. Adolygwch y canllawiau hyn cyn gwneud cais i gael eich ailasesu.

Diffiniad o statws ffioedd: Bydd asesiad y Brifysgol o'ch statws ffioedd yn pennu a ydych yn talu'r Ffi Ddysgu 'Cartref/yr UE' is neu'r gyfradd 'Ryngwladol' uwch. Mae'ch statws ffioedd yn aros yr un peth oni bai bod eich statws mewnfudo wedi newid. Os felly, mae hawl gennych fynnu ailasesiad o'ch statws.

Mae'r meini prawf cymhwyster isod yn ymwneud â ffioedd dysgu eich cwrs yn unig. Mae'r rheolau cymhwyster ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr yn dra wahanol. Am gyngor yngl?n â chymorth ariannol mae angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol

Myfyrwyr newydd

Os ydych yn fyfyriwr newydd ac wedi gwneud cais i astudio ar gwrs Israddedig neu Ôl-raddedig, bydd y Swyddfa Dderbyn yn pennu eich Statws Ffioedd yn seiliedig ar y wybodaeth yr ydych wedi'i darparu ar ffurflen archebu eich cwrs (neu drwy eich cais UCAS) ac ar holiadur asesu ffioedd y Brifysgol (os yw'n berthnasol) y gellir ei lawrlwytho yma.

Bydd y Swyddfa Dderbyn yn cadarnhau yn eich llythyr Cynnig os bydd rhaid i chi dalu Ffioedd Dysgu 'Cartref/UE' neu 'Ryngwladol'. (Mewn rhai achosion, bydd angen darparu eglurhad pellach er mwyn pennu'r statws cywir ar eich cyfer cyn i chi dderbyn llythyr 'Cynnig' terfynol a/neu mae'n bosib y cewch eich cynghori i ohirio'ch astudiaethau hyd nes eich bod yn cwrdd â'r gofynion hanfodol ar gyfer Ffioedd Dysgu ar gyfradd myfyrwyr 'Cartref/yr UE').

Mae'r Brifysgol yn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan UKCISA (Cyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU) wrth asesu Statws Ffioedd myfyriwr. Mae'r canllawiau hyn yn dehongli'r Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 a 2008 ar statws ffioedd dysgu.

I gael eich ystyried yn statws ffioedd Cartref rhaid i chi fodloni'r tri amod canlynol:

  • Os ydych wedi bod yn preswylio yn y DU fel rheol am gyfnod o 3 blynedd cyn dechrau'ch cwrs (heblaw am absenoldebau dros dro. Mae'r rheoliadau hyn yn cyfrifo'r cyfnod o 3 blynedd cyn naill ai 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1af Gorffennaf neu 1af Medi, pa bynnag ddyddiad sydd agosaf at ac sy'n rhagflaenu dechrau eich cwrs; ac
  • ni fuoch, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, yn preswylio yn y DU yn benodol er mwyn derbyn addysg lawn-amser; ac
  • mae gennych "statws sefydlog" yn y DU (h.y. yn unol â chyfreithiau mewnfudo'r DU, nid ydych ynghlwm i unrhyw gyfyngiad amser o ran hyd eich cyfnod preswyl) ar naill ai 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1af Gorffennaf neu 1af Medi, pa bynnag ddyddiad sydd agosaf at ac sy'n rhagflaenu dechrau eich cwrs.  

Yn ogystal, gellir asesu'r categorïau canlynol o fyfyrwyr fel myfyrwyr cartref os ydynt yn cwrdd â'r holl amodau:

  • Cenedlaetholwyr yr UE (neu aelod o deulu cenedlaetholwr yr UE),
  • Pobl y caniateir iddynt statws ffoadur neu 'hawl i aros' yn y DU, neu aelodau o'u teulu,
  • Myfyrwyr sy'n weithwyr mudol (neu sy'n blant i weithwyr mudol) o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir)
  • Plant i weithwyr o Dwrci yn y DU

Am ragor o wybodaeth ac eglurhad pellach, gweler gwefan UKCISA ac yn benodol, y cysylltiadau canlynol:-
A fydda i'n talu cyfradd 'cartref' neu 'dramor'? a Cymorth i Fyfyrwyr: gwneud cais yng Nghymru.

Myfyrwyr presennol

Os ydych yn fyfyriwr presennol ac mae eich statws preswyl, eich dinasyddiaeth neu eich amgylchiadau penodol eraill wedi newid ar ôl i chi dderbyn eich Cynnig a dechrau'ch cwrs, mae'n bosib y byddwch yn gymwys am adolygiad i'ch Statws Ffioedd.
Bydd hyn dim ond fel arfer yn berthnasol i fyfyrwyr dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os ydych chi (neu aelod o'ch teulu) wedi cael caniatâd statws Ffoadur, neu
  • os ydych chi (neu aelod o'ch teulu) wedi derbyn HP (Diogelwch Dyngarol) neu DL (Caniatâd yn ôl Disgresiwn), neu
  • os ydych chi (neu aelod o'ch teulu) wedi dod yn Genedlaetholwr y DU neu'n aelod o deulu Cenedlaetholwr y DU, neu
  • os ydych chi (neu aelod o'ch teulu) wedi yn dod yn weithiwr mudol yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, neu
  • os dewch yn blentyn i Genedlaetholwr y Swistir, neu
  • os dewch yn blentyn i 'weithiwr' o Dwrci


Ym mhob achos, rhaid cwrdd â'r holl amodau perthnasol, fel sydd wedi'i nodi yn Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 a 2008 yng nghanllawiau UKCISA.

Os ydych yn cwrdd ag un o'r enghreifftiau uchod, rhaid i chi gwblhau Holiadur Ffioedd (y gellir ei lawrlwytho yma) i wneud cais am adolygiad i'ch Statws Ffioedd (gellir cael hwn drwy Swyddfa Dderbyn y Brifysgol). Anfonwch yr holiadur wedi'i gwblhau (ynghyd â'r dystiolaeth ddogfennol angenrheidiol) at:-  Alison Hutchings, Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr, Abaty Singleton. Caiff eich achos ei adolygu gan banel o gynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol, y Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol, y Swyddfa Dderbyn a'r Swyddfa

Cofnodion Myfyrwyr (a all hefyd ymgynghori â'ch Awdurdod Lleol ynghylch eich cymhwyster am Gymorth Myfyrwyr). Bydd y panel yn cwrdd unwaith y tymor a chewch wybod mewn ysgrifen o ganlyniad eich ailasesiad.

Os cewch eich ailasesu'n llwyddiannus fel statws Cartref neu'r UE, byddwch yn talu'r gyfradd 'gartref' is ar gyfer Ffioedd Dysgu o ddechrau'r Flwyddyn Academaidd ddilynol.