Perthnasol i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru yn y Brifysgol yn swyddogol

Gofyn am ad-daliad

Os ydych wedi gordalu neu os yw'ch ffioedd dysgu wedi'u gostwng o ganlyniad i hysbysiad hwyr gan noddwr neu os ydych wedi gohirio neu dynnu yn ôl o'ch rhaglen, gallwch ofyn am ad-daliad o Swyddfa Arian y Brifysgol (wedi'i lleoli ar lawr gwaelod yr Adeilad Cyllid).

Gellir gwneud ad-daliad mewn amgylchiadau eithriadol, ar ddisgresiwn y Brifysgol.

Blaendal myfyrwyr rhyngwladol

Bydd ad-daliadau blaendal yn cael eu hystyried fesul achos- cysylltwch â refunds@swansea.ac.uk gyda rhagor o fanylion am eich sefyllfa.

Talu'r ad-daliad

Unwaith y penderfynir bod ad-daliad yn daladwy rhaid ad-dalu'r taliad dilynol i'r person a wnaeth y taliad gwreiddiol gan ddefnyddio'r un dull o dalu â'r taliad gwreiddiol yn unol â gofynion Deddfwriaeth Gwrth-wyngalchu Arian y DU.

Ad-daliad oherwydd Tynnu yn Ôl/Gohirio

Os ydych yn tynnu'n ôl o'ch rhaglen yn gynnar (neu'n Gohirio eich astudiaethau) gall cost eich ffioedd dysgu gael ei haddasu yn seiliedig ar y dyddiad olaf y buoch yn bresennol yn y Brifysgol (gweler yr adran sut y caiff eich ffioedd eu haddasu isod).Bydd swm y ffi a addasir yn dibynnu ar eich carfan, statws eich cwrs a ble yr ydych yn byw.

Sylwer:

  • Ni chaiff cais am ad-dalu ffioedd ei ystyried oni bai bod ffurflen dynnu yn ôl neu ohirio wedi'i chymeradwyo gan eich adran 'gartref'/y Gofrestrfa Academaidd a'i phrosesu gan y Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr. Mae ffurflenni ar gael o'ch adran
  • Lle bo myfyriwr rhyngwladol yn ymrestru ond yn gohirio yn ystod pythefnos cyntaf y tymor, bydd y Brifysgol yn cadw £1000 o'r ffi a delir
  • Caiff gordaliad ffioedd dysgu o ganlyniad i Ohirio astudiaethau ei gario ymlaen yn awtomatig i'r Sesiwn Academaidd nesaf. Caiff y credyd ei ddefnyddio i dalu am unrhyw atebolrwydd ffioedd yr eid iddynt wrth ailddechrau astudiaethau. Gall myfyrwyr fodd bynnag gwneud cais ffurfiol am ad-daliad ar y pwynt gohirio
  • Os ydych yn ailddechrau eich astudiaethau ar ôl cyfnod o ohirio ar ddechrau'r flwyddyn Academaidd nesaf, byddwch yn atebol am gostau'r cwrs yn llawn am y flwyddyn honno
  • Os yw myfyriwr Rhyngwladol wedi'i (g)wahardd neu ei dynnu/thynnu yn ôl oherwydd 'diffyg presenoldeb’ caiff y dyddiad a gyflwynir i Asiantaeth Ffiniau'r DU ei ddefnyddio at ddiben ail-gyfrifo ffioedd

 

YMGEISWYR

Blaendal myfyrwyr rhyngwladol

Bydd ad-daliadau blaendal yn cael eu hystyried fesul achos- cysylltwch â refunds@swansea.ac.uk gyda rhagor o fanylion am eich sefyllfa.

Israddedig Rhyngwladol

Os ydych yn tynnu'n ôl o'ch rhaglen yn gynnar (neu'n gohirio eich astudiaethau) caiff eich costau ffioedd dysgu eu haddasu pro-rata yn seiliedig ar y diwrnod diwethaf y buoch yn bresennol.

  • Ystyrir y Flwyddyn Academaidd yn gyfnod astudio 30 wythnos wedi'i rhannu'n dri thymor academaidd (ac eithrio cyrsiau ansafonol)
  • Os ydych yn tynnu'n ôl o'ch rhaglen yn gynnar (neu'n gohirio eich astudiaethau) cyn y 5 Hydref 2018, codir ffi o £1000 yn unig
  • ar ôl hynny, cyfrifir atebolrwydd am ffioedd ar sail pro-rata fesul wythnos gydag isafswm o 25% yn daladwy yn Nhymor 1 ac isafswm o 50% yn Nhymor 2
  • Mae ffioedd cwrs llawn yn daladwy os yw'r diwrnod olaf y buoch yn bresennol wedi'i gofnodi ar ôl diwrnod olaf tymor y Pasg
Israddedig UE DU

Sut y caiff eich ffioedd eu haddasu

Ôl-raddedig (Pawb)

Os ydych yn tynnu'n ôl o'ch rhaglen yn gynnar (neu'n gohirio eich astudiaethau) caiff eich costau ffioedd dysgu eu haddasu pro-rata yn seiliedig ar y diwrnod diwethaf y buoch yn bresennol.

Ymchwil:

  • Ystyrir y Flwyddyn Academaidd yn gyfnod o 12 mis
  • os ydych yn gadael eich rhaglen yn gynnar byddwch yn talu 1/12fed o gyfanswm y ffi hyd at y dyddiad olaf y buoch yn bresennol
  • os ydych yn fyfyriwr Cartref/y DU ac yn tynnu'n ôl o'ch rhaglen yn gynnar (neu'n Gohirio eich astudiaethau) cyn y 5 Hydref 2018, caiff costau eich ffioedd dysgu eu canslo yn gyfan gwbl
  • Codir isafswm o £1000 ar fyfyrwyr rhyngwladol ym mhob achos
  • rhaid talu misoedd rhannol fel misoedd llawn
  • Mae'r ffioedd llawn yn daladwy ar ôl y 9fed mis ymrestru

Myfyrwyr a Addysgir:

Os ydych yn tynnu'n ôl o'ch rhaglen yn gynnar (neu'n gohirio eich astudiaethau) caiff eich costau ffioedd dysgu eu haddasu pro-rata* yn seiliedig ar y diwrnod diwethaf y buoch yn bresennol.

  • Ystyrir y Flwyddyn Academaidd yn gyfnod astudio 30 wythnos ar gyfer elfen eich rhaglen a Addysgir (Rhan 1) yn ogystal â 60 credyd ar gyfer eich Traethawd Hir (Rhan 2)
  • caiff ffioedd eu haddasu ar sail pro-rata yn wythnosol ar gyfer Rhan 1 (llai costau'r traethawd hir); gweler enghreifftiau isod ar gyfer pob band ffioedd
  • os ydych yn fyfyriwr Cartref/y DU ac yn tynnu'n ôl o'ch rhaglen yn gynnar (neu'n Gohirio eich astudiaethau) cyn y 5 Hydref 2018, caiff costau eich ffioedd dysgu eu canslo yn gyfan gwbl
  • Codir isafswm o £1000 ar fyfyrwyr rhyngwladol ym mhob achos
  • mae costau llawn Rhan 1 yn daladwy os yw'r diwrnod olaf y buoch yn bresennol wedi'i gofnodi ar ôl diwrnod olaf tymor y Pasg
  • mae ffioedd Cwrs llawn (Rhan 1 a 2) yn daladwy os ydych yn tynnu'n ôl/gohirio ar ôl cwblhau Rhan 1 ac rydych wedi dechrau eich Traethawd Hir

*Fformwla a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau yn ystod cyfnod 'a addysgir' rhaglen: 2/3 x ffi lawn x nifer yr wythnosau/30