Llesiant@BywydCampws
Darparu cymorth ymarferol, cyfarwyddyd a chyfeirio at gymorth arbenigol, a chynorthwyo gydag ymyriadau tymor byr mewn achosion sy'n peri pryder lefel gymedrol i lefel uchel, neu risg heb ei rheoli.
Rydym yn gweithio'n agos gyda staff yn y cyfadrannau, gwasanaethau cymorth eraill yn y brifysgol a phartneriaid allanol, gan gynnwys yr heddlu, Iechyd Cyhoeddus Cymru a New Pathways er mwyn sicrhau dy fod ti’n cael y cymorth gorau drwy gydol dy astudiaethau.
Os oes angen cefnogaeth benodol arnat ti ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl neu'r sbectrwm awtistig (ASC), neu i ddatgelu anabledd, cer i’r tudalennau gwe Lles ac Anabledd er mwyn gweld sut i gyrchu cymorth arbenigol.
Sylwer: Mae'r tîm Lles ac Anabledd yn wasanaeth hunan-atgyfeirio felly bydd angen i chi lenwi Ffurflen Cymorth i Fyfyrwyr i gael mynediad ato.
Myfyrwyr
Os oes gennych ymholiad sy'n gysylltiedig â lles, cysylltwch â thîm Gwybodaeth / Profiad Myfyrwyr eich Cyfadran neu welfare.campuslife@abertawe.ac.uk.
Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy linell ffôn ymholiadau BywydCampws ar 01792 602000 (Dydd Llun - Dydd Iau: 10am – 4pm, Dydd Gwener: 10am – 12pm).
Hapus - Y Pecyn Cymorth Bywyd Myfyrwyr
Cwrs ar-lein sy'n eich paratoi ar gyfer y Brifysgol.
Staff
Mae Llesiant@BywydCampws hefyd yn cefnogi staff yn y brifysgol drwy dudalennau cyngor ar-lein, hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori ar achosion lles myfyrwyr.