Deall ffioedd llety
Mae ffioedd llety yn amrywio yn dibynnu ar y fath o ystafell ddewiswch, gan gynnig opsiynau sy’n addas ar gyfer dewisiadau a chyllidebau gwahanol.
Caiff ffioedd eu cyfrifo gan ddefnyddio nifer o ffactorau gan gynnwys:
- Maint yr ystafell - mae ystafelloedd mwy yn costio £5 i £6 yr wythnos yn fwy ar gyfartaledd
- Cyfleusterau ymolchi - opsiynau a rennir neu en-suite
- Opsiynau arlwyo - Pecynnau hunanarlwyo neu ragdaledig
Mae eich ffioedd llety yn hollgynhwysol, gan gynnwys:
- Cyfleustodau (e.e., dŵr, trydan, a gwres)
- Y rhyngrwyd
- Yyswiriant ar gyfer yr ystafell
Archwiliwch ein hystod eang o opsiynau llety i ddod o hyd I’r lle perffaith ar gyfer eich anghenion.