myfyriwr yn astudio

Yr hyn y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnig?

Raglen fywiog ac amrywiol o gyrsiau ac adnoddau e-ddysgu, a gweithdai wynebol cyfrwng Cymraeg. Mae’r rhain yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio eu cyrsiau’n rhannol neu’n hollol trwy gyfrwng y Gymraeg, a’r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae’r sesiynau hyn yn rhedeg trwy’r flwyddyn academaidd yn fyw ac arlein er mwyn eich cefnogi chi i ddatblygu’r sgiliau academaidd sy’n hanfodol i lwyddo - beth bynnag eich maes pwnc neu lefel astudio. Yn ogystal â’r rhaglen graidd, rydym hefyd yn cynnal gweithdai achlysurol fel rhan o’n wythnosau sgiliau ysgrifennu ac astudio. Ynghyd â’n gweithdai, rydym hefyd yn cynnig apwyntiadau 1:1 arlein/wyneb wrth wyneb gyda thiwtor CAS cyfrwng Cymraeg er mwyn trafod unrhyw gwestiynau penodol sydd gennych am eich gwaith. Gallwch archebu hyd at un apwyntiad yr wythnos trwy ein system archebu apwyntiadau ar-lein.