Gyda’r arholiadau’n prysur agosáu, mae adolygu’n hollbwysig. Ond, wrth feddwl am adolygu, ansawdd sy’n bwysig, nid faint rydych yn ei wneud: adolygu’n effeithiol, yn lle gor-adolygu. Yn hytrach na symud i mewn i’r llyfrgell am yr ychydig wythnosau nesaf ac adolygu 10 awr y dydd, mae’n bwysig gosod nodau adolygu realistig a neilltuo amser i ymlacio hefyd. Dyma rai awgrymiadau sut gallwch gyflawni hyn.
Gwnewch restr o’r pethau mae angen eu hadolygu ar gyfer pob arholiad. Dylai papur arholiad ymarfer a/neu hen bapurau for ar gael i chi i’ch helpu i wneud hyn.
Penderfynwch ba bynciau mae angen treulio mwy o amser arnynt. Gallech rannu’r pynciau ar sail system ‘goleuadau traffig’:
Gwyrdd – pynciau rydych yn teimlo’n hyderus amdanynt/rydych wedi eu hadolygu eisoes
Oren – pynciau mae angen i chi ailymweld â nhw/eu hadolygu rhagor
Goch – pynciau nad ydych yn hyderus amdanynt ac mae angen treulio rhagor o amser arnynt
Ar ddechrau pob wythnos, penderfynwch pryd byddwch yn adolygu. Os oes modd, yn hytrach na neilltuo diwrnodau cyfan ar gyfer adolygu, neilltuwch ychydig oriau bob dydd, wedi’u dosbarthu mor gyfartal â phosib. Mae Rowena Murray yn siarad am fyrbrydau ysgrifennu yn hytrach na gloddesta ar ysgrifennu – mae ysgrifennu mewn cyfnodau byr dwys (30 munud hyd yn oed) yn fwy cynhyrchiol na threulio oriau maith yn ysgrifennu ar y tro. Mae’r un peth yn wir am adolygu – mae neilltuo wyth hanner awr bob dydd am adolygu yn fwy cynhyrchiol nag un sesiwn pedair awr. Manteisiwch i’r eithaf ar sesiynau adolygu 30 munud.
Ar ôl i chi benderfynu pryd byddwch yn adolygu yn ystod yr wythnos, ymrwymwch i’r amserau hyn. Ysgrifennwch nhw yn eich dyddiadur/calendr a meddyliwch am yr amserau hyn fel apwyntiadau nad oes modd eu had-drefnu. Os bydd rhywun yn gofyn i chi fynd am baned yn yr amserau hyn, dywedwch na a threfnwch amser arall.
Neilltuwch bob un o’ch sesiynau adolygu ar gyfer pwnc penodol. Sicrhewch fod yr amser rydych yn ei neilltuo ar gyfer pwnc yn briodol i lefel ei flaenoriaeth. Er enghraifft, dylech roi mwy o amser i bynciau sydd wedi’u lliwio’n goch na phynciau gwyrdd.
Pomodoro Technique
Os ydych wedi trefnu un sesiwn adolygu hir, sicrhewch eich bod yn cael llawer o seibiannau byr. Er enghraifft, rhannwch sesiwn adolygu dwy awr yn bedwar hanner awr, gyda seibiannau 5-10 munud rhwng pob un o’r sesiynau adolygu hanner awr. Dyma’r Dechneg Pomodoro sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer rheoli amser a chynyddu cynhyrchiant. Mae’n golygu gosod amserydd am gyfnod penodol (25 neu 30 munud fel arfer) – rhoddir yr enw ‘Pomodoro’ i bob un o’r rhain. Dylech gymryd seibiant 5 munud ar ôl pob Pomodoro, ond dylech gymryd seibiant hwy ar ôl 4 Pomodoro – 30 munud fel arfer.
Gallwch addasu’r amserau hyn fel y mynnwch, ar yr amod eich bod yn glynu wrth yr egwyddor o gael seibiannau byr a seibiant hwy ar ôl pedwar Pomodoro. Er enghraifft, efallai fod gweithio am 40 munud gyda seibiannau 10 munud yn gweithio i chi, gyda seibiant hir o 50 munud (gallwch wylio rhaglen deledu neu fynd am dro). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio beth byddwch yn ei wneud ym mhob Pomodoro cyn i chi ddechrau. Gallwch brynu amserydd ar siâp tomato i’ch helpu gyda hyn (Pomodoro yw’r gair Eidaleg am domato!) ond mae fersiynau ar-lein ar gael hefyd neu gallwch lawrlwytho ap. Efallai y bydd angen i chi arbrofi i ddod o hyd i’r patrwm gorau i chi.
Gwnewch yn siŵr bod eich nodau adolygu’n realistig – peidiwch â cheisio cynnwys gormod mewn sesiwn 25-30 munud. Efallai y bydd angen amser i gael y cydbwysedd yn iawn. I wybod mwy am bennu nodau SMART, gweler blog cynharach y Rhaglen Llwyddiant Academaidd ar bennu nodau.
Pan fyddwch yn teimlo’n fwy parod, rhowch gynnig ar bapurau arholiad ymarfer gan amseru’ch hun. Bydd hyn yn eich helpu i nodi unrhyw feysydd mae angen eu hadolygu ymhellach a bydd yn gyfle i ymarfer ateb o fewn y terfynau amser, cyn yr arholiad go iawn. Ar ôl gwneud hyn, gallech fynd yn ôl at y dasg goleuadau traffig (Cam 2 uchod) a newid y lliwiau yn seiliedig ar ba mor barod rydych yn teimlo nawr.
Cyn yr arholiadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â chanllawiau arholiadau Prifysgol Abertawe. Un o’r rhain yw bod rhaid i chi fynd â’ch cerdyn myfyriwr gyda chi i’r arholiadau. Gallwch ddarllen canllawiau hanfodol i baratoi ar gyfer arholiadau yma a rhestr o’r pethau hanfodol i’w gwneud a’u hosgoi yma.
Yn olaf, ceisiwch beidio â phoeni am eich perfformiad ar ôl yr arholiad, a pheidiwch â thrafod y papur â myfyrwyr eraill. Does dim modd newid eich atebion, ac, ar yr amod eich bod wedi gwneud eich gorau, all neb ofyn mwy. Bydd eich dull adolygu’n newid drwy’r amser ac yn gwella wrth i chi ymarfer. Felly, mae’n bwysig myfyrio ar sut rydych yn dysgu, beth sy’n gweithio i chi a beth nad yw’n gweithio, er mwyn adolygu’n fwy effeithiol yn y dyfodol.