I'r rhan fwyaf o bobl, dyw edrych ar amserlen arholiadau ddim yn ffordd wych o ddechrau’r Flwyddyn Newydd, ond dilynwch yr awgrymiadau hyn am arholiadau a rhoi'r cyfle gorau i chi’ch hun lwyddo ym mis Ionawr.
Cael gwared ar bethau sy'n tynnu sylw
Mae un awr o astudio â ffocws yn llawer mwy cynhyrchiol na gweithio am bedair awr ac ymdopi â phethau sy’n tynnu eich sylw’n barhaus. Pan fyddwch chi'n eistedd i astudio, diffoddwch eich ffôn, datgysylltu'r rhyngrwyd a chau drws eich ystafell.
Gosod Nodau, nid Amseroedd
Mae'n hawdd perswadio eich hun eich bod chi wedi gweithio'n galed os ydych chi'n eistedd wrth eich desg drwy'r prynhawn, ond faint ydych chi wedi’i gyflawni mewn gwirionedd? Mae gosod nodau pendant yn hytrach na neilltuo cyfnod penodol o amser yn ffordd llawer mwy cynhyrchiol o astudio. Gwnewch yn siŵr bod y nodau'n gyraeddadwy, neu mae'n hawdd digalonni.
Egluro eich Hun
Yn aml iawn, rydyn ni'n meddwl ein bod ni'n deall rhywbeth, ond pan fydd hi'n amser dweud wrth rywun arall rydyn ni'n mynd yn ddryslyd. Mae angen ymarfer egluro'r pwyntiau rydych chi'n eu hadolygu wrth drydydd parti. Trefnwch grŵp adolygu neu beth am fachu ar y cyfle a gofyn i gyd-letywr neu aelod o'r teulu. Fe welwch eich bod chi'n mynegi eich hun yn llawer cliriach pan fydd hi'n amser egluro eich syniadau yn yr arholiad.
Corff Iach, Meddwl Iach
Mae'r bwyd rydych chi'n ei fwyta yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran pa mor dda mae eich ymennydd yn gweithio. Mae'r olew mewn bwydydd fel pysgod, cnau a hadau’n cadw'r meddwl yn ffres, fel y mae yfed digon o ddŵr. Dylech chi gynnwys ymarfer corff fel rhan o'ch amserlen arholiadau, gan fod cael y gwaed i lifo yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'ch sgiliau talu sylw a chadw gwybodaeth.
Cynllunio ar gyfer yr arholiad
Does dim byd gwaeth na chyrraedd arholiad â'ch gwynt yn eich dwrn. Gwnewch yn siŵr bod popeth yn barod y noson gynt. Dylech chi wybod yn union ble rydych chi'n mynd a gwneud yn siŵr eich bod chi'n cyrraedd yno’n gynnar. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi pacio unrhyw ddeunyddiau, offer ysgrifennu ac ati sydd eu hangen arnoch ymlaen llaw a'u bod yn barod i fynd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael noson dda o gwsg i baratoi'r ymennydd hefyd.
Dychmygu
Efallai ei fod yn swnio'n rhyfedd, ond gall treulio rhywfaint o amser yn dychmygu eich hun yn yr arholiad helpu i leihau nerfau arholiadau. Dychmygwch eistedd wrth eich desg ac ateb y cwestiynau'n dda. Ceisiwch weld eich hun yn cofio popeth rydych chi wedi'i adolygu yn rhwydd. Pan ddaw'r amser i chi wneud yr arholiad, bydd hi'n ymddangos fel petaech chi wedi gwneud y cyfan o'r blaen!