Nifer o fyfyrwyr yn adolygu yn y llyfrgell

Ymfudiad mawr y Serengeti, eirlysiau yn torri drwy'r pridd rhewllyd ac ŵyn bach newydd-anedig yn brefu yw rhai o'r pethau pleserus blynyddol y gall y rhai lwcus yn ein plith fod yn dyst iddyn nhw. Wrth gerdded drwy'r llyfrgell ddoe, roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn bresennol i'r ymgais funud olaf flynyddol i ddysgu popeth: grwpiau o fyfyrwyr wedi'u gwasgu at ei gilydd o amgylch y byrddau, yn adolygu fel lladd nadroedd i geisio cofio cymaint o wybodaeth â phosibl cyn rhuthro i neuadd arholiad a 'dadlwytho'r meddwl' i'w llyfrynnau arholiad. Fe wnaeth hyn wneud i mi feddwl: ai dyma'r ffordd orau o dreulio'r awr yn union cyn arholiad?

Mae'n bwysig cofio bod arholiadau'n tueddu i brofi eich gallu i ddangos eich dealltwriaeth o syniadau cymhleth a chofio a chymhwyso ffeithiau, fformiwlâu a damcaniaethau a ddysgwyd trwy'r tymor. Mae'n debyg y bydd eich gallu i wneud hyn yn cael ei effeithio gan eich cyflwr meddyliol, a'r cyflwr gorau i'r meddwl fod ynddo yw, yn ôl Cal Newport, hyderus a phwyllog. Y broblem gyda'r dull dadlwytho'r meddwl yw y gall gynhyrchu adrenalin a allai eich gwneud chi'n nerfus ac effeithio ar eglurder eich atebion.

Rhedwr ar y blociau cychwyn

Dychmygwch Usain Bolt ar ddiwrnod rownd derfynol y sbrint 100 medr. Allwch chi ei ddychmygu'n sbrintio cyn y ras? Dim gobaith. Wrth i'r camera symud ar draws y rhedwyr, rydych chi'n ei weld yn gwenu, yn hyderus ac wedi ymlacio. Mae cyflwr meddwl hwn yn ei helpu i ennill. Trwy wneud y gwaith yn yr wythnosau cyn y ras, ac ymlacio a dychmygu llwyddiant yn union cyn hynny, mae Bolt yn rhoi'r cyfle gorau iddo’i hun i berfformio yn ôl ei ddisgwyliadau. Dylech chi geisio gwneud yr un peth…

  • rhowch eich hun mewn sefyllfa i fod yn hyderus cyn diwrnod yr arholiad.
  • ceisiwch baratoi eich hun ar ddiwrnod yr arholiad, trwy fynd dros y pwyntiau rydych chi'n hyderus yn eu cylch, ond peidiwch â gorwneud pethau
  • dychmygwch eich hun yn ysgrifennu traethawd arbennig o dda ar bwnc rydych chi'n teimlo'n hyderus yn ei gylch

Yn amlwg, mae eich arholiad yn debygol o bara mwy na 9.58 eiliad. Ond trwy weithredu strategaeth astudio dda a meddwl fel ffigwr Olympaidd, gallwch roi'r cyfle gorau i chi eich hun berfformio yn ôl eich disgwyliadau.