Bydd y gyfres hon o fideos byr yn eich tywys trwy brif egwyddorion gweithio mewn grwpiau. Mae pob fideo yn cyfateb i gam gwaith grŵp a dylech chi weithio trwyddynt yn y drefn y maent yn ymddangos ar y dudalen hon. Bydd angen ysgrifbin wrth law er mwyn ysgrifennu eich atebion i rai o'r cwestiynau myfyriol a gwneud nodyn o unrhyw gwestiynau ychwanegol rydych chi'n meddwl amdanynt.

Cyflwyniad i waith grŵp

Mae'r fideo cyntaf yn ystyried pwysigrwydd gwaith grŵp ac yn trafod y prif sgiliau y gallwch eu datblygu drwy weithio'n llwyddiannus mewn grŵp.

Gweithio Mewn Grwpiau (Rhan 1) - Cyflwyniad i Waith Grŵp
Grŵp o fyfyrwyr gyda'u dwylo yn yr awyr

Ffurfio

Mae’r fideo hwn yn eich annog chi i feddwl am gam cyntaf creu grŵp. Dyma pryd byddwch chi’n meddwl am eich swyddogaeth chi fel unigolyn yn y grŵp, gan ofyn i chi archwilio eich ofnau a’ch gobeithion ar gyfer datblygu grŵp llwyddiannus.

Gweithio Mewn Grwpiau (Rhan 2) - Ffurfio
Roedd y myfyrwyr yn sefyll mewn cylch gyda'u dwylo yn y canol.

Stormio

Yn y fideo hwn, byddwn yn meddwl am rai o'r problemau sy'n gallu codi pan fyddwch yn gweithio mewn grŵp. Mae'n anochel y bydd rhai anawsterau, ond mae hynny'n beth naturiol iawn pan fydd unigolion yn dod at ei gilydd. Yma, gallwch ddechrau meddwl am sut y gallech fynd i'r afael â datrys problemau a sut y bydd hynny'n eich helpu i ddatblygu rhai o'r sgiliau pwysig y mae eu hangen arnoch.

storm

Normaleiddio

Yn y fideo hwn, byddwn yn trafod y cam creu grwpiau lle bydd unigolion yn dechrau teimlo’n gyffyrddus gyda’i gilydd a’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn grŵp. Gofynnir i chi feddwl am pam mae’r cam hwn yn bwysig. Pan fyddwch chi’n cyrraedd camau terfynol gwaith grŵp, byddwch yn gallu cwblhau eich tasg yn llwyddiannus a chyflawni amcanion eich aseiniad. Mae’n bwysig parhau i adfyfyrio ar sut rydych chi wedi perfformio fel unigolyn ac fel grŵp, oherwydd y bydd hyn yn eich helpu i atgyfnerthu eich sgiliau.

Gweithio Mewn Grwpiau (Rhan 4) - Normaleiddio
Eisteddodd y myfyrwyr ar rai grisiau yn sgwrsio

Perfformio ac ymadael

Pan fyddwch yn cyrraedd camau olaf eich gwaith grŵp, byddwch yn gallu cwblhau eich tasg yn llwyddiannus a chyflawni amcanion eich aseiniad. Mae'n bwysig i chi barhau i fyfyrio ar eich perfformiad fel unigolyn ac fel rhan o grŵp, gan y bydd hyn yn eich helpu i atgyfnerthu eich sgiliau.

Gweithio Mewn Grwpiau (Rhan 5) - Perfformio ac Ymadael
Grŵp o fyfyrwyr yn neidio i'r awyr i ddathlu