Mae'r fideo cyntaf yn ystyried pwysigrwydd gwaith grŵp ac yn trafod y prif sgiliau y gallwch eu datblygu drwy weithio'n llwyddiannus mewn grŵp.
Gweithio Mewn Grwpiau (Rhan 1) - Cyflwyniad i Waith Grŵp
- Canolfan Asesu DSA Prifysgol Abertawe
- Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
- BywydCampws
- Canolfan Llwyddiant Academaidd
- Y Labordy Sgiliau Academaidd
- Ein cyhoeddiadau
- Marciau Cyflym
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Sesiynau astudio â chymorth cymheiriad
- Cwrs Hyfforddiant Cynghorydd Ysgrifennu Cymheiriaid
- Llysgenhadon uniondeb academaidd
- Ymgynghorwyr mathemateg ac ystadegaeth
- Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr
- Ymestyn yn Ehangach
Adnoddau
Trawsgrifiad
Croeso i'r gyfres hon o adnoddau wedi'u creu gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i helpu i'ch tywys drwy broses gwaith grŵp. Dylech wrando ar bob fideo yn ei drefn er mwyn cael y gorau o'r adnoddau. Mae sawl math gwahanol o waith grŵp a all ddigwydd mewn amrywiaeth o gyd-destunau, ac mae bron yn sicr y bydd gofyn i chi wneud rhyw fath o waith grŵp.
Yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe, efallai bydd angen i chi weithio mewn grŵp yn yr ystafell ddosbarth. Efallai bydd angen i chi gwblhau tasgau a phrosiectau gyda phobl eraill, ac efallai bydd y gwaith rydych yn ei gynhyrchu fel rhan o grŵp yn rhan o asesiad ar gyfer eich cwrs. Er y gall ymddangos yn her weithiau, mae'r sgiliau rydych yn eu meithrin wrth weithio'n llwyddiannus mewn grŵp yn ddefnyddiol ym mhob rhan o'ch bywyd.
A byddant yn cael effaith gadarnhaol ar eich cyflogadwyedd pan fyddwch yn graddio. Cyn i chi symud ymlaen at yr adrannau eraill ar y dudalen we hon, bydd yn ddefnyddiol i chi ddechrau myfyrio ar y rhesymau pam nad ydych yn hoffi gwaith grŵp neu, yn wir, pam rydych yn ei hoffi. Efallai eich bod yn fewnblyg ac mae gwaith tîm yn eich blino, neu efallai eich bod yn gymdeithasol iawn ac rydych yn hoff o weithio gyda phobl eraill.
Efallai nad ydych yn hoff o golli rheolaeth lawn dros eich gwaith eich hun. Treuliwch ychydig funudau'n nodi cynifer o syniadau ag y gallwch ynghylch y rhesymau pam rydych yn hoffi gweithio mewn grwpiau neu’r rhesymau pam nad ydych yn ei hoffi. Ar ôl i chi nodi'ch syniadau, ceisiwch feddwl am fanteision ac anfanteision gweithio mewn grŵp. Hyd yn oed os nad ydych wedi gwneud gwaith grŵp o'r blaen, yn fwy na thebyg bydd syniad gennych am yr hyn a allai fod yn anodd neu'r hyn a allai wneud bywyd yn haws wrth fod mewn grŵp. Treuliwch ychydig funudau'n rhestru beth rydych chi'n meddwl yw manteision ac anfanteision gweithio mewn grwpiau. Mae ymchwil yn dangos bod gan fyfyrwyr yn gyffredinol ddisgwyliadau isel ynghylch gwaith grŵp, ac o ganlyniad, yn aml ni fyddant yn cydweithredu'n dda neu ni fyddant yn cydweithredu o gwbl hyd yn oed, mewn gwirionedd. Mae casáu grwpiau'n syniad sefydledig iawn mewn damcaniaeth ddysgu, ac ar y sgrîn mae rhestr o'r rhesymau mwyaf cyffredin a roddir gan fyfyrwyr dros beidio â hoffi gwaith grŵp.
Ein tasg gyntaf yw dechrau meddwl a allwn ni droi rhai o'r syniadau hyn ar eu pennau. Er enghraifft, os ydych yn uniaethu â'r pwynt cyntaf ar y sgrîn, pam dylai fy ngradd ddibynnu ar yr hyn mae pobl eraill yn ei wneud? Oes modd i chi beidio â meddwl am hyn o safbwynt cydweithredu, rhannu sgiliau a gwybodaeth a rhannu cyfrifoldeb? Os nad ydych yn hoffi'r bobl yn eich grŵp, oes modd i chi feddwl am hyn fel cyfle i wella eich sgiliau cyfathrebu?
Treuliwch amser yn meddwl am bob un o'r rhesymau hyn er mwyn ystyried a ydynt yn berthnasol i chi a'r ffordd rydych yn teimlo am waith grŵp.
Yr hyn rydym yn ei wybod am waith grŵp yw nad yw ceisio mynd i'r afael â theimladau negyddol mewn ffordd wahanol yn mynd i fod yn ddigon. Felly, efallai y bydd yn eich helpu i wybod, y gall cydweithio fel rhan o grŵp ddarparu dysgu gwell na gweithio'n unigol er gwaethaf y syniad hwn o gasáu grwpiau. Mewn gwirionedd, mae tystiolaeth gref sy'n dangos bod myfyrwyr sy'n gweithio mewn grwpiau yn perfformio'n well na'u cymheiriaid mewn nifer o feysydd allweddol.
Mae ymchwil yn dangos ein bod yn dysgu mwy pan fyddwn yn gweithio ac y cyd ac yn gydweithredol ac mewn gwirionedd, er mai’r angen i greu darn o waith yw ein cymhelliant, y broses o weithio mewn grŵp sy'n gwneud i ni ddysgu. Mewn geiriau sylfaenol, mae'r dysgu gorau'n digwydd wrth i ni weld ein hunain yn fwy nag unigolion mewn grŵp, ond pan fyddwn yn teimlo bod y grŵp ei hun wedi dod yn rhan o'n hunaniaeth ddysgu.
Fel y mae'r ddau ymchwilydd hyn yn ei nodi, wrth weithio mewn grwpiau mae myfyrwyr yn perfformio'n well na'u cymheiriaid mewn nifer o feysydd allweddol. Rhan fawr o'r rheswm dros hyn yw bod gweithio ar y cyd ac yn gydweithredol yn helpu i ddysgu'n weithredol. Dysgu gweithredol yw'r gwrthwyneb i eistedd a gwrando ar eich athrawon. Mae dysgu gweithredol yn golygu meithrin yr wybodaeth a'r sgiliau y mae eu hangen arnoch, drwy weithredu a bod wrth ganol eich profiad dysgu chi.
Mae hyn i gyd yn golygu eich bod yn meithrin eich gallu i feddwl yn feirniadol. Pan fyddwch yn gweithio gydag eraill. Rydych yn profi syniadau drwy'r amser, yn barnu safbwyntiau eraill, ynghylch y deunydd neu'r dasg, yn creu cysylltiadau rhwng syniadau, yn cyrraedd casgliadau efallai y bydd angen i chi eu newid ar sail sut rydych yn gwerthuso syniadau pobl eraill ac yn dysgu dadlau dros eich safbwynt. Ar y sgrîn, ceir delwedd o fframwaith dysgu ac addysgu o'r enw Tacsonomeg Bloom.
Os ydych yn edrych ar y tabiau ar bwys y pyramid, gallwch weld bod y sgiliau rwyf newydd eu disgrifio yn perthyn i ben y pyramid, o dan Dadansoddi a Gwerthuso. Felly, cyfiawnhau safbwynt neu benderfyniad gan greu cysylltiadau rhwng syniadau. Dyma sgiliau uwch. Ac os gallwch ddangos y rhain, byddwch yn cael marciau gwell na'r rhai y byddech yn eu cael wrth ddangos dealltwriaeth o'r cysyniadau yn eich tasg yn unig.
Os oes diddordeb gennych mewn dysgu rhagor am hyn, gallwch edrych ar y cwrs Meddwl yn Feirniadol y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnal. Fodd bynnag, yn y bôn, bydd gwaith grŵp yn eich helpu i feithrin y sgiliau uwch hyn. Yn ogystal â bod ag angen y sgiliau meddwl yn feirniadol hynny ar gyfer eich gradd, gallwch weld hefyd o'r sleid hon fod cyflogwyr yn gwerthfawrogi'r cymwyseddau a'r galluoedd rydych yn eu meithrin wrth weithio mewn grŵp yn fawr iawn.
Mae pob un o'r sgiliau a restrir ar y sleid hon yn ymwneud yn uniongyrchol â gwaith tîm, a bydd gallu dangos profiad o'r sgiliau hyn yn helpu eich cyflogadwyedd. Felly, gan gofio hynny i gyd, bydd gweddill yr adrannau ar y dudalen we hon yn canolbwyntio ar feithrin grŵp llwyddiannus. Yn y fideos sy'n dilyn, byddaf yn eich tywys drwy'r fframwaith a ddefnyddir amlaf i fapio datblygiad grŵp sydd ei hun yn seiliedig ar ymchwil y seicolegydd Bruce Tuckman.
Mae pedwar cam penodol i'r fframwaith hwn: ffurfio, stormio, normaleiddio a pherfformio. Ac ychwanegodd Tuckman gam olaf - sef cwblhau - ychydig flynyddoedd ar ôl datblygu'r model hwn yn wreiddiol. Efallai byddwch hefyd yn gweld 'galaru' yn lle 'cwblhau. Bydd bod yn ymwybodol o'r fframwaith hwn yn eich helpu i nodi'r ddeinameg sydd ar waith yn eich grŵp, a bydd yn rhoi cipolwg i chi ar y cyfleoedd sydd ar gael a'r problemau y gallai fod angen eu datrys. Bydd pob un o'r darnau fideo dilynol yn disgrifio nodweddion y camau hyn wrth ffurfio grŵp, a byddant yn awgrymu tactegau ar gyfer symud ymlaen â'ch gwaith grŵp.