Mae’r fideo hwn yn eich annog chi i feddwl am gam cyntaf creu grŵp. Dyma pryd byddwch chi’n meddwl am eich swyddogaeth chi fel unigolyn yn y grŵp, gan ofyn i chi archwilio eich ofnau a’ch gobeithion ar gyfer datblygu grŵp llwyddiannus.
Gweithio Mewn Grwpiau (Rhan 2) - Ffurfio
- Canolfan Asesu DSA Prifysgol Abertawe
- Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
- BywydCampws
- Canolfan Llwyddiant Academaidd
- Y Labordy Sgiliau Academaidd
- Ein cyhoeddiadau
- Marciau Cyflym
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Sesiynau astudio â chymorth cymheiriad
- Cwrs Hyfforddiant Cynghorydd Ysgrifennu Cymheiriaid
- Llysgenhadon uniondeb academaidd
- Ymgynghorwyr mathemateg ac ystadegaeth
- Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr
- Ymestyn yn Ehangach
Adnoddau
Trawsgrifiad
Ffurfio yw'r rhan gyntaf o fodel Tuckman, sef y cam cyntaf mewn gwaith grŵp pan fydd hunaniaeth y grŵp yn cael ei chreu. Felly, ar y cam ffurfio byddwch yn penderfynu pwy sydd yn y grŵp ac yn dod i adnabod eich gilydd. Yn y bôn, y cam ffurfio yw ble bydd eich hunaniaeth fel grŵp yn cael ei sefydlu, a gall wneud i chi deimlo'n nerfus neu'n bryderus ac, o ganlyniad, yn swil i gyfranogi.
Ond bydd pobl eraill yn teimlo'r un ffordd. Ar y llaw arall, gallwch chi fod yn unigolyn cymdeithasgar sy'n mwynhau cwrdd â phobl newydd a siarad â nhw, a gallai fod yn gyfle i chi gefnogi'r rhai sy'n llai brwdfrydig. Beth bynnag yw natur eich personoliaeth, mae'n dda cofio bod grŵp effeithiol a chanlyniad llwyddiannus yn ffynnu ar amrywiaeth. A gwahaniaeth.
Does dim ffordd gywir nac anghywir yma, a'r peth pwysig yw cydnabod sut rydych chi'n teimlo ac ymrwymo i fod yn rhan o'r grŵp. Mae'n ddefnyddiol meddwl am y broses ffurfio hon mewn tri cham. Yn gyntaf, os ydych chi'n myfyrio fel unigolyn, yn ddelfrydol cyn cyfarfod cyntaf y grŵp, gallwch ddechrau meddwl am y dasg ei hun a'ch lle mewn amgylchedd grŵp.
Yn ail, mae'r drafodaeth grŵp yn bwysig iawn er mwyn i unigolion ddechrau gweithio fel grŵp. Byddwch yn gallu trafod disgwyliadau a chyfrifoldebau, a dechrau meddwl am yr arferion bydd eich grŵp yn eu mabwysiadu. Er enghraifft, pa mor aml byddwch yn cyfarfod a sut byddwch yn cyfarfod? Yn drydydd, rwy'n meddwl ei bod hi'n hanfodol i chi fyfyrio fel grŵp ar ddiwedd y cyfarfod cyntaf.
Felly, awn ni drwy bob un o'r camau hyn yn eu trefn dros yr ychydig sleidiau nesaf. Er ei bod hi'n dda dod i adnabod eich gilydd yn bersonol i feithrin ymdeimlad o gyfeillgarwch, er mwyn bod yn hynod gynhyrchiol, bydd angen i bob aelod o'r grŵp ystyried ei gryfderau a'i wendidau a'r sgiliau a'r wybodaeth benodol y gall eu cyfrannu at y dasg.
Bydd cael syniad da am sut bydd pob unigolyn yn gallu cyfrannu at y grŵp yn ei gyfanrwydd yn helpu wrth ysgwyddo rolau unigol a rhannu tasgau. Am y rheswm hwn, gallai fod yn ddefnyddiol i bob aelod dreulio amser cyn pob cyfarfod, neu ar ei ddechrau, yn ystyried y cwestiynau ar y sgrîn. Beth yw fy nghryfderau a'm gwendidau, a sut rydw i'n teimlo am waith grŵp?
Pa fath o bersonoliaeth sydd gen i? Beth yw lefel fy ngwybodaeth am y maes hwn a'r dasg? A beth yw fy nisgwyliadau o ran sut mae'r grŵp yn gweithio? Wrth gwrs, efallai y bydd gennych eich cwestiynau eich hun a fydd yn ddefnyddiol. Y peth pwysig yw y bydd eich myfyrdod personol ar ddechrau'r broses yn eich helpu i ddod â hunanymwybyddiaeth i'r broses a fydd yn sail i'ch ffordd o ryngweithio â'r grŵp.
Bydd hyn hefyd yn caniatáu i chi ystyried pa rolau a chyfrifoldebau a fydd yn eich helpu i deimlo'n gyfforddus mewn grŵp, a lle gallech chi ddechrau meddwl am fentro y tu allan i’r meysydd lle rydych chi'n teimlo'n gyfforddus. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd. Ar ôl gwylio'r adran hon, bydd yn ddefnyddiol i chi ddod yn ôl a meddwl am sut gall myfyrio unigol helpu wrth ffurfio grŵp.
Felly, gwnewch nodyn o'r ddau gwestiwn olaf ar y sleid hwn fel y gallwch ddod yn ôl atynt nes ymlaen. Yn ogystal, wrth ffurfio'r grŵp, mae'n ddefnyddiol pennu'r rheolau sylfaenol ar gyfer rhyngweithio yn y grŵp, ac mae'n ddefnyddiol ystyried pa fath o arferion grŵp hoffech chi siarad amdanynt. Pa fath o brotocolau grŵp hoffech chi eu pennu a pha fathau o ymagwedd at y dasg mae angen eu harchwilio?
Mae enghreifftiau o'r arferion efallai byddai'r grŵp am eu pennu yn cynnwys parch, prydlondeb, cyd-gyfrifoldeb ac adborth adeiladol yn hytrach na beirniadaeth bur. Gallwch hefyd bennu'r protocolau am sut byddwch chi'n cysylltu â'ch gilydd. Fyddwch chi'n defnyddio neges destun neu WhatsApp neu blatfform cyfryngau cymdeithasol arall neu e-bost, er enghraifft? Pa mor aml byddwch chi'n cysylltu â'ch gilydd a sut byddwch chi'n cofnodi hyn?
Pethau eraill efallai dylech chi eu hystyried: fyddwch chi'n pleidleisio os nad oes modd cyrraedd consensws? Oes angen cadeirydd, neu a fydd pob aelod yn gyfrifol yn ei dro am gymryd nodiadau neu wneud cofnodion o'r cyfarfod? Felly, efallai bydd yn ddefnyddiol i chi dreulio ychydig amser cyn eich cyfarfod cyntaf yn meddwl am y camau ymarferol a fydd yn helpu'r grŵp i weithredu. Fel hyn bydd gennych ychydig o awgrymiadau os na fydd pethau'n llifo'n hwylus yn y cyfarfod cyntaf.
Ar ben hyn, os bydd y grŵp yn cwrdd ar-lein yn unig, drwy Zoom neu blatfform tebyg, bydd yn arbed amser ac yn osgoi dryswch nes ymlaen. Os oes modd, cytunwch ar gyfres o gonfensiynau ar gyfer cyfarfodydd eich grŵp; er enghraifft, ydy'n gwneud gwahaniaeth os yw pawb yn diffodd eu camerâu? Fydd y cyfarfod yn cael ei recordio? A phwy sy'n gyfrifol am greu dolen ar gyfer y cyfarfod?
Byddwch chi'n gallu meddwl am bethau eraill a fydd hefyd yn helpu'r grŵp i weithredu'n ymarferol. Yn bwysicaf oll, efallai, caiff y grŵp ei ffurfio ar sail y dasg bydd angen i chi ei chwblhau. Felly, bydd angen i aelodau'r grŵp ddarllen yr aseiniad gyda'i gilydd a thrafod y gofynion. Gallech chi ystyried creu map meddwl o syniadau pawb fel y bydd gennych gofnod o feddyliau cychwynnol pawb.
Rhannwch yr aseiniad yn dasgau llai y bydd angen eu cwblhau, a rhowch y tasgau hynny i aelodau unigol o'r grŵp, gan gytuno ar ddyddiad i'w cwblhau. Cofiwch, efallai y caiff y prosiect ei asesu yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys sut mae'r grŵp wedi cydweithio. Felly, un awgrym da yw bod pob aelod o'r grŵp yn cyfrannu at bob rhan o'r dasg. Gall fod yn demtasiwn dynodi tasgau ac wedyn i bawb fynd i ffwrdd a chwblhau'r tasgau hynny fel unigolion.
Er enghraifft, mae un person yn creu'r delweddau ac mae person arall yn ysgrifennu'r testun ac mae rhywun arall yn gyfrifol am dynnu'r deunyddiau ynghyd. Ond gall gweithio fel hyn beri risg o ddiffyg cydlyniad yn eich gwaith a gall danseilio cyfathrebu yn y grŵp. Felly, os ydych chi wrthi’n gwneud gwaith grŵp, neu ar fin dechrau gweithio mewn grŵp, treuliwch amser nawr yn ystyried beth rydych chi'n meddwl y dylai gael ei gynnwys mewn trafodaeth grŵp. Er mwyn atgyfnerthu'r drafodaeth grŵp honno, bydd yn ddefnyddiol treulio amser ar ddiwedd eich cyfarfod cyntaf yn myfyrio ar y cyd er mwyn sicrhau bod trafodaeth y grŵp wedi cynnwys y pwyntiau a godwyd gan fyfyrdod pob unigolyn, eich bod wedi rhannu disgwyliadau a bod gennych gynllun clir ac amserlen reolaidd. Oes rôl a thasg gan bob unigolyn, ac ydy pawb yn gyfforddus gyda'r rôl honno?
Yn bwysicaf oll efallai, ydych chi wedi trafod system ar gyfer codi materion neu broblemau? Felly, mae myfyrio fel grŵp yn helpu i atgyfnerthu eich trafodaethau ar y cam ffurfio. Drwy weithio drwy'r ystyriaethau hyn yn yr adran hon, byddwch wedi dechrau proses ffurfio eich grŵp. Dylai hyn eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus am fynd i'r afael â'ch tasg a dylech chi deimlo'n dawelach eich meddwl bod llwybr clir tuag at gyflawni amcanion y dasg honno.
A nawr gallwch chi symud ymlaen at fideo rhif tri.