Yn y fideo hwn, byddwn yn meddwl am rai o'r problemau sy'n gallu codi pan fyddwch yn gweithio mewn grŵp. Mae'n anochel y bydd rhai anawsterau, ond mae hynny'n beth naturiol iawn pan fydd unigolion yn dod at ei gilydd. Yma, gallwch ddechrau meddwl am sut y gallech fynd i'r afael â datrys problemau a sut y bydd hynny'n eich helpu i ddatblygu rhai o'r sgiliau pwysig y mae eu hangen arnoch.
Gweithio Mewn Grwpiau (Rhan 3) - Stormio
- Canolfan Asesu DSA Prifysgol Abertawe
- Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
- BywydCampws
- Canolfan Llwyddiant Academaidd
- Y Labordy Sgiliau Academaidd
- Ein cyhoeddiadau
- Marciau Cyflym
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Sesiynau astudio â chymorth cymheiriad
- Cwrs Hyfforddiant Cynghorydd Ysgrifennu Cymheiriaid
- Llysgenhadon uniondeb academaidd
- Ymgynghorwyr mathemateg ac ystadegaeth
- Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr
- Ymestyn yn Ehangach
Adnoddau
Trawsgrifiad
Stormio yw enw'r ail gam o ffurfio grŵp, fel y'i nodir ym model Tuckman Er bod hynny'n swnio'n eithaf dramatig, mae'n hollol normal i grŵp fynd drwy gyfnod o stormio yn dilyn cyfarfod cynhyrchiol cyntaf. Mewn gwirionedd, mae hynny bron yn anochel. Wrth ystyried ei ddiffiniad bras, rydym i gyd yn meddwl am y term 'stormio' fel rhyw fath o anfodlonrwydd neu negatifedd, neu hyd yn oed wrthdaro mewn rhai achosion.
Mae Tuckman ac ymchwilwyr dilynol yn diffinio stormio fel cyfnod pan fydd yr unigolion yn y grŵp yn ymateb i alwadau'r dasg a'r syniad o weithredu fel grŵp. Gall hyn fod yn rhan anodd o waith grŵp, yn enwedig os ydych chi'n teimlo nad yw'r prosiect ar y trywydd iawn neu os ydych chi'n cael anhawster ymdopi â'r hyn sy'n ymddangos yn wrthdaro i chi. Gall deall stormio fel rhan hanfodol o ffurfio grŵp eich helpu i ymdopi â'r profiad a'i ddefnyddio i gryfhau eich gwaith grŵp a'ch cyfraniad at y dasg, yn ogystal â gwella eich sgiliau cyfathrebu a chyd-drafod.
Felly, bydd yn ddefnyddiol i ni feddwl am stormio mewn tri cham. Yn gyntaf, pa fathau o anfodlonrwydd neu wrthdaro a allai godi? Sut bydd unigolion a'r grŵp yn ymdrin â'r materion hyn? Ac yn olaf, sut gall eich grŵp fyfyrio ar y cam stormio a dysgu ganddo? Felly, yn gyntaf, pa fathau o broblemau a allai godi? Efallai byddwch yn gyfarwydd â'r mathau canlynol o ymddygiad cyffredin mewn cyfnod o stormio:
Felly, cymerwch funud i ddarllen drwy'r rhestr ar y sleid. Yn y pen draw, mae'r mathau hyn o ymddygiad yn arwain at ddiffyg cyfathrebu a rhannu gwybodaeth, sy'n effeithio ar allu'r grŵp i wneud y gwaith ac yn arwain at anfodlonrwydd cyffredinol yn y grŵp. Wrth gwrs, mae'n bosib y byddwch yn gallu meddwl am fathau eraill o ymddygiad a'u heffeithiau, ond beth bynnag yw'r ymddygiad, mae nodi'r problemau'n mynd â ni'n ôl i'n hail gwestiwn. Sut byddwch chi'n ymdrin â stormio ar lefel bersonol?
A sut gall y grŵp ymateb iddo mewn ffordd gadarnhaol? Yn gyntaf, efallai y bydd y grŵp yn gallu datrys gwrthdaro drwy gyfeirio'n ôl at unrhyw reolau sylfaenol a wnaethpwyd gennych yn ystod y cam ffurfio. Ond mae hefyd yn ddefnyddiol cofio'r awgrymiadau eraill hyn a fydd yn eich helpu i symud ymlaen o wrthdaro a datblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr. Felly, canolbwyntiwch ar y grŵp yn hytrach nag ar unigolion.
A sut gall y grŵp ymdrin â hyn mewn ffordd gadarnhaol? Yn gyntaf, efallai y bydd y grŵp yn gallu datrys gwrthdaro drwy gyfeirio'n ôl at unrhyw reolau sylfaenol a wnaethpwyd gennych yn ystod y cam ffurfio. Ond mae hefyd yn ddefnyddiol cofio'r awgrymiadau eraill hyn a fydd yn eich helpu i symud ymlaen o wrthdaro a datblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr. Felly, canolbwyntiwch ar y grŵp yn hytrach nag ar unigolion.
Bydd popeth sy'n cael ei wneud yn cael rhyw effaith ar y grŵp ac ar ganlyniad y prosiect, felly y peth gorau yw ceisio mabwysiadu safbwynt ehangach. Dod o hyd i atebion ar gyfer y grŵp, fel grŵp, yw'r ffordd orau ymlaen. Er enghraifft, mae un person yn penderfynu ei fod yn anhapus gyda’i dasg, felly nid yw wedi gweithio arni. Byddai'n hawdd rhoi'r bai ar yr unigolyn hwnnw ac ymateb yn ddig.
Yn lle hynny, meddyliwch sut gall bod yn rhan o grŵp helpu'r sefyllfa hon. Allai'r dasg benodol honno gael ei rhannu ymhlith eraill? Ydy'n bosib ei bod yn anodd i'r unigolyn hwn? A fyddai'r unigolyn hwnnw'n ymateb yn dda i dasg neu rôl wahanol? Yn gyffredinol, dylech chi fod yn meddwl beth sydd orau i'r grŵp a chanlyniad y prosiect. Nesaf, canolbwyntiwch ar y broblem yn hytrach nag ar y person.
Mae'n hawdd teimlo’n rhwystredig gydag unigolion a rhoi bai ar bobl, ond os yw pawb yn cael cyfle i fynegi eu teimladau mewn ffordd onest, bydd hyn yn arbed amser ac yn atal problemau rhag codi nes ymlaen. Felly, beth gall y grŵp cyfan ei wneud i ddatrys y broblem hon? Efallai gallech chi ailystyried dyrannu’r tasgau a gwirio bod y dyddiadau cau'n realistig. Felly, ceisiwch fod yn wrthrychol a deall bod gwahaniaethau a safbwyntiau amrywiol yn gallu arwain at ganlyniadau gwell.
Efallai y byddwch chi mewn gwrthdaro ag aelodau eraill o'r grŵp. Er y gall problem ymddangos yn amlwg i chi, ceisiwch gofio y gallai eraill weld y sefyllfa’n wahanol ac efallai na fydd y problemau mor amlwg iddyn nhw. Ceisiwch esbonio sut rydych chi'n teimlo a pham, hyd yn oed os yw hynny'n ymddangos yn anodd. Gallech chi gael eich synnu. Wrth gwrs, os yw pethau wedi datblygu’n anodd iawn, mae arweinydd eich cwrs yno i'ch helpu.
Efallai y byddwch chi mewn gwrthdaro ag aelodau eraill o'r grŵp. Er y gall problem ymddangos yn amlwg i chi, ceisiwch gofio y gallai eraill weld y sefyllfa’n wahanol ac efallai na fydd y problemau mor amlwg iddyn nhw. Ceisiwch esbonio sut rydych chi'n teimlo a pham, hyd yn oed os yw hynny'n ymddangos yn anodd. Gallech chi gael eich synnu. Wrth gwrs, os yw pethau wedi datblygu’n anodd iawn, mae arweinydd eich cwrs yno i'ch helpu.
Gall bod yn ymwybodol o faterion yn ystod y cam stormio fod o gymorth mawr i ddeall beth sydd wrth wraidd y broblem a'ch galluogi chi i fod yn fwy gwrthrychol. Ystyriwch rannu'r wybodaeth hon ag aelodau eraill eich grŵp i'ch helpu i fyfyrio. Dyma rai pethau y gallai fod yn ddefnyddiol myfyrio arnynt: sut aethoch ati i ymdrin â gwrthdaro? Gafodd ei ddatrys? Os naddo, pam?
Beth wnaeth y grŵp yn ei gyfanrwydd yn dda? Beth gallech chi ei wella? A sut gwnaethoch chi ymateb fel unigolyn? Beth rydych chi wedi ei ddysgu? A beth byddech yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf? Felly, er y gall y syniad o ymdrin â gwrthdaro mewn gwaith grŵp deimlo braidd yn frawychus, gall deall ei fod yn elfen annatod o weithio gydag eraill normaleiddio'r cam stormio.
Bydd bod yn gyfarwydd â'i nodweddion a'r strategaethau ar gyfer symud y tu hwnt i stormio eich helpu i feithrin sgiliau megis cyfathrebu, empathi, meddwl yn feirniadol a datrys problemau. Bydd y rhain i gyd yn eich helpu drwy eich gradd ac wedi hynny. Hefyd, mae'n bwysig sylweddoli nad yw grwpiau bob amser yn symud drwy bob cam mewn ffordd linol. Weithiau gallech symud yn ôl i'r cam stormio gan weithio ar set wahanol o broblemau.
Unwaith eto, mae hyn yn normal ac os byddwch yn digwydd symud yn ôl cam, bydd gennych y sgiliau angenrheidiol i ddatrys y problemau. Nawr rydych chi'n barod i symud ymlaen i'r fideo nesaf.