Yn y fideo hwn, byddwn yn trafod y cam creu grwpiau lle bydd unigolion yn dechrau teimlo’n gyffyrddus gyda’i gilydd a’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn grŵp. Gofynnir i chi feddwl am pam mae’r cam hwn yn bwysig. Pan fyddwch chi’n cyrraedd camau terfynol gwaith grŵp, byddwch yn gallu cwblhau eich tasg yn llwyddiannus a chyflawni amcanion eich aseiniad. Mae’n bwysig parhau i adfyfyrio ar sut rydych chi wedi perfformio fel unigolyn ac fel grŵp, oherwydd y bydd hyn yn eich helpu i atgyfnerthu eich sgiliau.
Gweithio Mewn Grwpiau (Rhan 4) - Normaleiddio
- Canolfan Asesu DSA Prifysgol Abertawe
- Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
- BywydCampws
- Canolfan Llwyddiant Academaidd
- Y Labordy Sgiliau Academaidd
- Ein cyhoeddiadau
- Marciau Cyflym
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Sesiynau astudio â chymorth cymheiriad
- Cwrs Hyfforddiant Cynghorydd Ysgrifennu Cymheiriaid
- Llysgenhadon uniondeb academaidd
- Ymgynghorwyr mathemateg ac ystadegaeth
- Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr
- Ymestyn yn Ehangach
Adnoddau
Trawsgrifiad
Y trydydd cam ym model Tuckman ynghylch sut mae gwaith grŵp yn datblygu yw normaleiddio. Dyma'r adeg pan fydd consensws yn datblygu a dylai eich grŵp ddechrau teimlo'n gyfforddus a chreu'r gwaith y mae ei angen er mwyn cyrraedd y nôd terfynol. Efallai byddwch yn lwcus ac yn symud yn syth at y cam hwn ar ôl ffurfio, er bod hynny'n eithaf annhebygol. A beth bynnag, mae rhai o'r gwersi gorau o ran datblygu sgiliau a chyfathrebu'n dod i'r amlwg yn ystod y cam stormio, a gallwch eu rhoi ar waith o ddifrif yma yn y cam normaleiddio.
Gallai rhai o nodweddion mwyaf cyffredin normaleiddio gynnwys trafodaeth haws ynghylch syniadau, rhwystrau a nodau. Bydd yr aelodau unigol wedi dechrau deall ei gilydd yn haws, ac efallai y bydd cyfeillgarwch yn cael ei ddatblygu neu o leiaf bydd yr aelodau’n derbyn ei gilydd a’u nodweddion unigol. Oherwydd bod cyfathrebu'n haws, bydd cynhyrchiant y grŵp yn cynyddu a bydd y pwyslais ar y dasg a'r gwaith y mae angen ei wneud, yn hytrach nag ar ddeinameg y grŵp.
Ac yn rhannol mae hyn oherwydd bod rolau'n cael eu gwreiddio yn y grŵp, wrth i unigolion ddarganfod y mannau lle maent yn fwyaf cyfforddus yn gweithredu. Ac mae hyn yn arwain at fwy o waith cydweithredol wrth i aelodau unigol ddod yn fwy cyfforddus gyda hunaniaeth grŵp. Yn y bôn, y cam normaleiddio yw'r cam pan fyddwch yn teimlo'n hapusaf wrth weithio mewn grŵp. Oherwydd y newidiadau cadarnhaol yn y ffordd mae'r grŵp yn cyfathrebu, mae'r cam normaleiddio'n amser da i fyfyrio ar y tasgau ychwanegol y mae eu hangen er mwyn gwella canlyniadau’r prosiect. Hefyd, gallech ystyried pa brosesau rydych wedi'u defnyddio fel grŵp, ac a allai fod modd gwella rhai ohonynt. Er enghraifft, allech chi wella'r cyfathrebu drwy gysylltu rhwng y cyfarfodydd a drefnwyd? Dylech allu gwneud newidiadau yn ystod y cam normaleiddio heb achosi gwrthdaro, er y dylech gofio ei bod yn bosibl cwympo’n ôl drwy bob cam felly dylech gofio defnyddio eich sgiliau cyfathrebu.
Hefyd, gallwch ddechrau gwerthuso'r hyn sydd wedi gweithio'n dda hyd yn hyn, gan eich bod wedi dod at eich gilydd fel grŵp, ar y cam hwn, byddwch yn teimlo'n fwy rhydd i fwrw cipolwg beirniadol ond adeiladol ar y gwaith sydd wedi'i wneud eisoes. Efallai byddai’n hynod ddefnyddiol ar yr adeg hon nodi sgiliau rydych wedi'u dysgu neu eu meithrin fel unigolyn a lle gallech chi wella yn eich barn chi, , oherwydd byddwch yn teimlo'n fwy cyfforddus wrth werthuso eich perfformiad mewn amgylchedd grŵp sefydlog.
Felly, y cam normaleiddio yw'r amser pan fydd llawer o'r gwaith sy'n canolbwyntio ar y dasg yn cael ei greu. Fodd bynnag, mae'n bwysig peidio â meddwl mai hwn yw'r cam pwysicaf. Rwy'n dweud hyn oherwydd er mai cwblhau tasg yw prif amcan gwaith grŵp , ni ddylech danbrisio pwysigrwydd yr holl gamau wrth feithrin eich sgiliau ehangach. Nawr rydych yn barod i symud ymlaen at y fideo nesaf.