Pan fyddwch yn cyrraedd camau olaf eich gwaith grŵp, byddwch yn gallu cwblhau eich tasg yn llwyddiannus a chyflawni amcanion eich aseiniad. Mae'n bwysig i chi barhau i fyfyrio ar eich perfformiad fel unigolyn ac fel rhan o grŵp, gan y bydd hyn yn eich helpu i atgyfnerthu eich sgiliau.
Gweithio Mewn Grwpiau (Rhan 5) - Perfformio ac Ymadael
- Canolfan Asesu DSA Prifysgol Abertawe
- Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
- BywydCampws
- Canolfan Llwyddiant Academaidd
- Y Labordy Sgiliau Academaidd
- Ein cyhoeddiadau
- Marciau Cyflym
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Sesiynau astudio â chymorth cymheiriad
- Cwrs Hyfforddiant Cynghorydd Ysgrifennu Cymheiriaid
- Llysgenhadon uniondeb academaidd
- Ymgynghorwyr mathemateg ac ystadegaeth
- Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr
- Ymestyn yn Ehangach
Adnoddau
Trawsgrifiad
Yn y fideo hwn, byddaf yn siarad am y ddau gam olaf ym model ffurfio grŵp Tuckman. Y rhain yw perfformio a gohirio. Mae cyrraedd y camau hyn yn golygu bod eich grŵp wedi gweithredu'n effeithiol ac wedi cwblhau'r dasg a osodwyd i chi. Gallech gyrraedd y camau hyn yn gymharol gyflym, ond bydd hynny'n dibynnu ar y math o aseiniad rydych wedi gorfod cwblhau, maint eich grŵp a'r ffyrdd y mae eich grŵp wedi symud drwy'r camau eraill rydym wedi'u trafod.
Pan fydd eich grŵp yn cyrraedd y cam perfformio, dylech deimlo'n hapus iawn eich bod wedi cyflawni eich nod. Mae'n golygu eich bod wedi dangos sgiliau datrys problemau a chyfathrebu da. Eich bod wedi bodloni eich dyddiadau cau a bod eich tasg wedi'i chwblhau neu'n agos iawn at ei chwblhau. Yn y cam hwn, rydych nid yn unig wedi gwella eich gwybodaeth am bynciau ac yn gweithio tuag at orffen eich prosiect, ond rydych hefyd wedi atgyfnerthu'r sgiliau gwaith tîm sydd wedi bod yn datblygu ers y cam ffurfio.
Gan ddibynnu ar y math o aseiniad rydych chi'n ei gwblhau, gall y cam hwn bara am gyfnod gweddol fyr. Er enghraifft, y cyfnod cyn ac wrth roi cyflwyniad, neu gall bara dros gyfnod hwy o amser. Er enghraifft, efallai eich bod yn ysgrifennu traethawd, p'un bynnag sy'n berthnasol i chi. Gobeithio y byddwch yn mwynhau'r cam hwn gan ei fod yn cynrychioli diweddglo gwaith y grŵp.
Gallai'r cam perfformio fod yn amser da i chi barhau i fyfyrio'n unigol er mwyn atgyfnerthu eich syniadau eich hun am sut roedd y gwaith grŵp yn gweithio i chi. Rhai cwestiynau i'w hystyried yw Beth oedd y peth mwyaf anodd i chi am weithio mewn grŵp? Y peth hawsaf? A pha sgiliau oedd gennych cyn y gwaith grŵp sydd wedi bod yn ddefnyddiol yn eich barn chi?
Sut mae'r sgiliau hynny wedi datblygu neu wella? Ydych chi wedi dysgu unrhyw beth newydd? Beth yw'r sgiliau newydd hynny ac a oes ffyrdd y gallwch barhau i'w datblygu ar ôl i'ch gwaith grŵp ddod i ben? Sut mae eich gwybodaeth am bynciau wedi gwella? Unwaith eto, mae'n werth cofio, fel y dywedais yn gynharach, nad yw'r camau hyn o waith grŵp o reidrwydd yn llinol, ac os bydd newidiadau i'r grŵp yn digwydd hyd yn oed yn ystod y cam perfformio, gallech symud yn ôl drwy'r cylch.
Gall myfyrio a dysgu yn ystod pob cam helpu'r grŵp i ddatrys problemau'n fwy effeithiol ac yn gyflymach. Yr ail dro y byddwch yn symud i gyfnod penodol. Os yw eich grŵp wedi llwyddo i gyrraedd a chynnal y cam perfformio, byddwch yn cyflawni eich nod terfynol. Felly da iawn chi. Yn dilyn y cam perfformio, bydd y grŵp yn symud i gam olaf fframwaith Tuckman, sef gohirio.
Efallai y byddwch hefyd yn gweld y cam hwn yn cael ei alw'n gam galaru. Er bod y dasg yn cael ei chwblhau, mae cydnabod bod grŵp yn dod i ben yn gyfle gwerthfawr i atgyfnerthu'r hyn rydych wedi'i ddysgu ac i werthuso holl broses gwaith y grŵp. Felly, prif nodau'r cam gohirio yw cydnabod fel grŵp; twf, cynnydd a chyflawniad. Ac i adnabod fel unigolyn; ddatblygiad yn eich sgiliau, ac i ddod i ben ar nodyn cadarnhaol.
Ac yn olaf, ar ôl cyflwyno eich prosiect, bydd yn ddefnyddiol i chi fyfyrio'n unigol ar y cwestiynau canlynol. Sut roedd y broses gwaith grŵp yn eich tyb chi? Beth wnaethoch yn dda, a sut oedd yn gwneud i chi deimlo? Yn eich barn chi, beth gallech fod wedi'i wneud yn wahanol, a sut gallech fod wedi gwneud hynny'n wahanol? Sut fyddai hynny'n gwneud i chi deimlo?
Gwnewch restr o sgiliau gwell a sgiliau newydd ynghyd â'r enghreifftiau. Bydd y math hwn o fyfyrio yn eich helpu i fod yn glir iawn am yr hyn rydych wedi'i ddysgu o'r broses gwaith grŵp. Efallai eich bod wedi gweld eich bod wedi mwynhau gweithio gydag eraill fel rhan o dîm, ond hyd yn oed os na chawsoch fwynhad neu os ydych yn cael anawsterau gyda gwaith grŵp, bydd myfyrio fel hyn yn eich helpu i weld gwerth y gwaith grŵp hwnnw a bydd yn rhoi enghreifftiau pendant o'r sgiliau rydych wedi'u meithrin.
Rydych bellach wedi gweithio drwy bob segment sy'n ymwneud â model Tuckman o waith grŵp, a gobeithio eich bod yn teimlo'n fwy cyfarwydd â sut mae pob cam yn gweithredu. Rydym wedi trafod strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â phob cam o waith grŵp ac wedi ystyried sut gallwch fyfyrio ym mhob cam er mwyn gwella eich sgiliau unigol yn ogystal â'r canlyniad i'r grŵp. Felly, pob lwc gyda'ch gwaith grŵp.
Diolch am ddefnyddio'r adnodd hwn ac ewch i wefan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau a'n gweithdai.