tân gwyllt

Mae'n ddechrau tymor newydd a blwyddyn newydd sbon. Rydych chi wedi ymlacio dros wyliau’r Nadolig ac yn ysu i fwrw iddi; yn barod i ymgolli yn y llyfrau eto, yn barod i gael gradd Dosbarth Cyntaf, neu Ragoriaeth; creu chwip o draethawd hir.

Mae'n ddigon posib eich bod wedi defnyddio egwyl y Nadolig i fyfyrio ar y tymor diwethaf. Beth allech chi fod wedi'i wneud yn well? Beth sydd ddim wedi mynd mor dda? Beth sydd angen i chi ei newid i lwyddo eleni? Efallai eich bod wedi ysgrifennu ychydig o addunedau Blwyddyn Newydd yn seiliedig ar gael graddau gwell y tymor hwn.

Nawr, y broblem gydag addunedau Blwyddyn Newydd yw eu bod mor hawdd i'w torri. Mae llawer o bobl yn ysgrifennu rhestr hir o nodau amhosibl, pethau fel 'Osgoi unrhyw siwgr a chaffein' neu 'Gwneud ymarfer corff bob dydd am awr’. Erbyn mis Chwefror fwy na thebyg maen nhw’n mwynhau Latte a myffin yn Costbucks ac yn teimlo'n euog am dalu am aelodaeth campfa dydyn nhw ddim yn ei defnyddio.

Felly sut allwn ni osgoi'r senario honno sy'n llawer rhy gyfarwydd?

Dewiswch y rhai sy'n wirioneddol bwysig

Does dim byd o'i le ar ysgrifennu rhestr hir o dargedau uchelgeisiol. Ond a ydych chi, mewn gwirionedd, yn mynd i wneud mwy o ymarfer corff, bwyta'n iachach, astudio bedair awr y dydd, ymuno â chymdeithas, treulio mwy o amser yn yr awyr agored, deffro a mynd i'r gwely'n gynt, cyfyngu ar eich nosweithiau allan….. Pa rai sy’n mynd i wneud y gwahaniaeth mwyaf mewn gwirionedd? Dewiswch ddau neu dri pheth sy'n wirioneddol bwysig a chanolbwyntio arnyn nhw yn hytrach na llethu eich hun gyda rhestr hir o bethau amhosibl.

Rhywun yn yfed mewn bar

Rhannu nodau’n dargedau cyraeddadwy

P'un a ydych chi wedi penderfynu eich bod chi'n mynd i wneud mwy o ymarfer corff neu dreulio mwy o amser yn y llyfrgell, y tebygrwydd yw bod unrhyw beth yn mynd i fod yn sioc i'r system ar ôl egwyl Nadolig hir. Rydych chi'n llawer mwy tebygol o lwyddo os byddwch chi'n rhannu eich holl nodau’n ddarnau llai, mwy cyraeddadwy. Felly, er enghraifft, efallai eich bod wedi penderfynu treulio 8 awr yr wythnos yn y llyfrgell. Dechreuwch gydag ychydig o slotiau hanner awr yr wythnos. Mae cyflawni hyn yn gymharol hawdd, a bydd y llwyddiant yn eich cymell i ddal ati gyda'r adduned. Bydd adeiladu tuag at eich nodau, yn hytrach na cheisio eu cyflawni ar unwaith yn rhoi cyfle llawer gwell i chi eu cyrraedd.

Pan fyddwch chi'n methu

Gyda phob ewyllys da yn y byd, bydd yna ddyddiau neu wythnosau hyd yn oed pan na fyddwch chi’n cyflawni'r nodau rydych chi wedi'u gosod i chi eich hun. Pan fydd hyn yn digwydd mae temtasiwn i roi'r ffidil yn y to. Peidiwch. Dechreuwch eto o le oeddech chi, a daliwch ati i adeiladu tuag at y weledigaeth oedd gennych chi pan wnaethoch chi ysgrifennu eich addunedau.

rhywun sy'n rhoi cefnogaeth academaidd

Gair i gloi

Y tebygolrwydd yw bod eich addunedau blwyddyn newydd yn canolbwyntio ar gael graddau gwell, defnyddio eich amser yn well a bod yn fyfyriwr mwy llwyddiannus yn gyffredinol. Os mai chi yw'r myfyriwr hwnnw, yna mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yma i helpu. Rydyn ni'n cynnig apwyntiadau un i un lle byddwn ni'n rhoi cyngor defnyddiol i chi ar eich gwaith yn ogystal â chynnal gweithdai ar bethau fel ysgrifennu traethodau, meddwl yn feirniadol a rheoli amser. Os mai eich nodau yw cael graddau gwell eleni, gallwn helpu i wneud i hynny ddigwydd!