grŵp o fyfyrwyr sy'n astudio o gwmpas bwrdd

A yw'r myfyriwr naturiol berffaith yn bodoli neu a yw'n rhywbeth y gallwn ni i gyd ei ddysgu?

Fel addysgwyr rydyn ni'n aml yn clywed sylwadau fel “Alla i ddim ysgrifennu” neu “Dydw i ddim yn dda mewn mathemateg” sy'n awgrymu ein bod ni'n cael ein geni naill ai'n dda neu'n wael gydag ysgrifennu neu fathemateg. Yn wir, i raddau helaeth mae'r ffordd y caiff plant eu canmol yn yr ystafell ddosbarth yn cefnogi'r syniad hwn. Rydyn ni'n canmol y canlyniadau yn hytrach nag ymarfer. Fodd bynnag, mae astudiaethau'n dangos y dylen ni ganolbwyntio mwy ar ymarfer a llai ar ganlyniadau (oherwydd yn y pen draw, bydd ymarfer yn golygu canlyniadau llawer gwell).

Ysgrifennodd Malcolm Gladwell lyfr o'r enw Outliers a theitl un o'r penodau oedd “The 10,000 Hour Rule”. Roedd yn dadlau bod pobl yn dod yn arbenigwyr yn eu maes ar ôl 10,000 o oriau o ymarfer. Nododd nifer o bobl/grwpiau enwog (Bill Gates, The Beatles, a phersonoliaethau chwaraeon) i dynnu sylw at y rheol hon.

Gellir olrhain y cysyniad 10,000 awr yn ôl i bapur ym 1993 a ysgrifennwyd gan Anders Ericsson, Athro ym Mhrifysgol Colorado, a theitl y papur oedd The Role of Deliberate Practice in the Acquisition of Expert Performance.

Person sy'n darllen map

Roedd y papur yn tynnu sylw at waith grŵp o seicolegwyr yn Berlin, a oedd wedi astudio arferion ymarfer myfyrwyr ffidil yn ystod plentyndod, y glasoed ac wrth droi'n oedolion.

Roedd pob un ohonyn nhw wedi dechrau chwarae pen oedden nhw tua phum mlwydd oed gydag amseroedd ymarfer tebyg. Fodd bynnag, yn wyth oed, dechreuodd amseroedd ymarfer amrywio. Erbyn iddyn nhw gyrraedd 20 oed, roedd y perfformwyr elitaidd wedi ymarfer am 10,000 awr a mwy yr un ar gyfartaledd, tra bod y perfformwyr llai abl ond wedi ymarfer am 4,000 awr.

Ni welodd y seicolegwyr unrhyw berfformwyr naturiol ddawnus yn dod i'r amlwg ac roedd hyn wedi'u synnu. Pe bai talent naturiol wedi chwarae rhan, ni fyddai wedi bod yn afresymol disgwyl i berfformwyr dawnus ddod i'r amlwg ar ôl 5,000 o oriau, dyweder.

Daeth Anders Ericsson i'r casgliad bod “many characteristics once believed to reflect innate talent are actually the result of intense practice extended for a minimum of 10 years”.

boncyff coed

Er nad oes gan lawer ohonom ni 10,000 o oriau (tua 10 mlynedd o ymarfer dwys) i'w treulio yn gwella ein gwaith academaidd, yr hyn sy'n cael ei amlygu yw'r ffaith does yr un ohonom ni'n cael ein geni'n dda neu'n wael mewn unrhyw beth. Mae Anders Ericsson yn dadlau yn hytrach, er bod gan dalent naturiol ran ym mha mor dda neu wael ydyn ni am wneud rhywbeth, yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth yw pa mor aml a pha mor dda rydyn ni'n ymarfer. Yn hytrach na chanolbwyntio ar fynd trwy bapur, dylech chi ganolbwyntio ar sut i ysgrifennu'n dda. Ddim yn siŵr sut i wneud hynny? Dewch i un o'n cyrsiau ysgrifennu!

O BBC: http://www.bbc.co.uk/news/magazine-26384712