Yr wythnos ddiwethaf ar gyfer y newydd-ddyfodiaid fe wnaethon ni gynnal cystadleuaeth 'Fe wnaf i’. Ysgrifennodd y myfyrwyr eu nodau ar gyfer y flwyddyn ar fwrdd gwyn. Roedd yn wych gweld cymaint o fyfyrwyr uchelgeisiol.
Fe wnaeth y gystadleuaeth i ni feddwl am y syniad o osod nodau. Gan fod hwn yn ddiwrnod cyntaf tymor academaidd newydd, roedden ni'n meddwl y bydden ni rhannu rhai o'r awgrymiadau a'r cynghorion rydyn ni wedi'u dysgu ar hyd y ffordd i'ch helpu i osod a chyflawni eich nodau ar gyfer y tymor hwn. Mae gosod nodau’n ddyfais ddefnyddiol iawn y tu hwnt i'r brifysgol hefyd, felly mae'n arfer gwych i'w roi ar waith.
Pam Gosod Nodau?
Mae pawb o athletwyr proffesiynol i'r dynion a'r menywod busnes gorau yn gosod nodau yn eu gyrfaoedd. Mae'n rhoi ffocws i'w hegni, yn caniatáu iddyn nhw fesur eu cynnydd a'u helpu i ddod yn fwy cynhyrchiol. Mae pob un ohonyn nhw'n bethau defnyddiol iawn i fyfyrwyr hefyd.
Diffinio eich Nodau
Meddyliwch am yr hyn rydych chi ei eisiau o'r flwyddyn hon. Ydych chi'n gobeithio cael gradd dosbarth cyntaf? Ydych chi'n dymuno rheoli eich amser yn well? Neu a ydych chi'n dymuno cael gwell cydbwysedd rhwng gwaith/chwarae, felly nad ydych chi’n astudio drwy'r amser?
Byddwch yn uchelgeisiol – cofiwch gael hwyl – dychmygwch y diwedd perffaith i'r flwyddyn academaidd hon a sut beth fydd hynny. Mae hwn yn gyfnod braf iawn. Gallwch chi fod yn greadigol hyd yn oed a thynnu lluniau neu gasglu lluniau o'ch diwedd delfrydol i'r flwyddyn.
Rhannwch Nhw
Mae hwn yn gyfnod eithriadol o bwysig. Mae cymaint ohonom ni'n gosod targedau enfawr i ni'n hunain, ond dydyn ni ddim yn meddwl am y camau angenrheidiol y mae angen i ni eu cymryd i’w cyrraedd, a all arwain at deimladau o gael ein llethu a diffyg cymhelliant. Er enghraifft, mae cael dosbarth cyntaf yn nod clodwiw heb os, ond mae angen i chi gymryd y cam nesaf sef diffinio'r gwahanol ffyrdd y byddwch chi'n gwneud hynny. Gallai hyn olygu dechrau traethodau'n gynnar, mynd ati i drafod eich syniadau gyda'ch darlithydd neu ffrindiau, dod i weld rhywun o'r Rhaglen Llwyddiant Academaidd gyda chynllun eich traethawd, neu lu o gamau eraill.
Ewch ati i rannu pob nod yn ficro-nodau. Diffiniwch un peth bach y byddwch chi'n ei wneud bob dydd a fydd yn sicrhau eich bod yn y man iawn. Gwnewch restr a thicio'r eitemau wrth eu cyflawni. Pryd bynnag y byddwch chi'n cyflawni cam bach sy'n mynd â chi'n agosach at eich targed, boed yn ddarllen pennod o lyfr neu ysgrifennu drafft o gant neu ddau o eiriau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwobrwyo eich hun gyda rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau.
Wyddoch chi, y broblem fwyaf wrth osod nodau enfawr i ni'n hunain yw y gallan nhw ymddangos mor bell i ffwrdd ac anodd eu cyflawni ac felly mae'r cymhelliant yn pylu. Daw cymhelliant o weld cynnydd y gellir ei fesur, felly mae'r cam hwn o greu targedau bach o fewn eich nodau mwy, a gwobrwyo eich hun pan fyddwch chi'n eu cyflawni yn un pwysig iawn.
Byddwch GAMPUS
Offeryn defnyddiol i'ch helpu wrth osod nodau, mawr a bach, yw defnyddio'r acronym CAMPUS. Dylai eich nodau fod yn:
Cyraeddadwy
Amserol
Mesuradwy
Penodol
Uchelgeisiol
Synhwyrol
Trwy ymdrin â'ch nodau mawr am y flwyddyn yn y modd hwn, gan rannu popeth yn ddarnau bach, cyraeddadwy, gallwch chi wneud eleni yn flwyddyn lwyddiannus dros ben!