Disgyblion mewn dosbarth ysgol

Y ddadl

Un o'r gwahaniaethau allweddol rhwng astudio Llenyddiaeth Saesneg ar Safon Uwch ac mewn addysg uwch yw bod disgwyl i chi ddatblygu dadl wrth ysgrifennu asesiad. Gall fod yn anodd colli’r arfer o feddwl am draethawd fel casgliad o bethau diddorol rydym yn eu meddwl am destun, ond i weithio mewn ffordd wirioneddol feirniadol mae angen i'r holl bethau hynny symud tuag at un pwynt trosfwaol rydych chi am ei wneud am y testun(au).

Dylai prif ddadl ddangos rhywbeth (y rheswm rydym yn argymell cynnwys brawddeg yn eich cyflwyniad sy'n nodi "Bydd y traethawd hwn yn dangos"). Mae'n fwy na nodi'r hyn sy'n amlwg, megis bod nofelau George Orwell yn wleidyddol. Mae dadl yn cynnig safbwynt gall rhywun anghytuno ag ef; mae gweddill y traethawd wedyn yn ceisio esbonio pam mae eich dehongliad yn ddilys.

Myfyriwr ysgol yn codi ei law

Ymuno â'r Drafodaeth

Efallai fod astudio Safon Uwch neu TGAU wedi gwneud i chi feddwl fod yna un dehongliad cywir o bob testun. Ond, mewn addysg uwch, ac ysgolheictod ehangach, rydym yn gweithio ar sail y ddealltwriaeth bod sawl dehongliad o destun, weithiau rhai sy’n gwrthdaro â’i gilydd.

Wrth sôn am ymuno â'r drafodaeth, nid ydym yn golygu'r drafodaeth ar lafar yn yr ystafell seminar yn unig. Yn eich aseiniadau, bydd disgwyl i chi gyfeirio at ddeunydd eilaidd, theori a beirniadaeth hefyd. Gan ddibynnu ar eich maes pwnc, gallai deunydd eilaidd gynnwys deunydd megis newyddiaduraeth, cyfweliadau, adroddiadau hanesyddol neu ddeunydd hyrwyddo.

Theori a beirniadaeth yw'r traethodau, y llyfrau a’r erthyglau sy'n ymwneud yn benodol â theori lenyddol ynghylch eich testunau astudio. Efallai y bydd y rhain yn newydd i chi, a gallant ymddangos yn ddwys ac yn heriol ar yr olwg gyntaf. Mae hyn yn ffordd wych o feddwl am theori a beirniadaeth: dim fel offeryn i brofi eich bod yn gywir neu'n anghywir, ond fel lleisiau mewn sgwrs rydych yn dechrau ymuno ynddi.

Beth yw defnydd Deunydd Eilaidd?

Drwy feddu ar ddealltwriaeth dda o'r deunydd eilaidd o gwmpas testun, gallwn ennill dealltwriaeth well trwy ehangu’r cyd-destun, dehongliadau eraill, a sut gall theorïau ehangach gael eu cymhwyso iddo. Er y gall fod yn demtasiwn i ddewis a dethol dyfyniadau sydd o blaid eich safbwyntiau, i’w defnyddio yn eich aseiniad, nid yw'r rhain bob amser yn creu darn darllen diddorol.

Yn hytrach na defnyddio dyfyniadau eilaidd i gadarnhau eich barn bresennol, ceisiwch ddefnyddio dyfyniad eilaidd i:

  • Roi cyd-destun hanesyddol i'ch testun - beth roedd pobl yn ei feddwl pan gafodd ei gyhoeddi neu ei berfformio am y tro cyntaf? Sut mae'r farn honno wedi newid?
  • Cymharu bwriad yr awdur â'r canlyniad - beth mae'r awdur wedi'i ddweud am ysgrifennu'r testun hwn? Ydych chi'n meddwl ei fod yn llwyddiannus?
  • Cymhwyso ideoleg ddamcaniaethol ehangachf i'ch testun - Sut mae eich testun yn rhyngweithio â rhyw, genre, theori gwiar, theori wleidyddol, ôl-wladychiaeth, etc.?
  • Rhoi barn rydych chi'n anghytuno â hi - pam rydych chi'n meddwl bod eich dehongliad chi’n gryfach? Beth gallwch chi ei weld y mae'r beirniad wedi ei golli? Beth mae wedi ei ddefnyddio fel tystiolaeth y byddech chi'n ei ddehongli'n wahanol?
Detholiad o lyfrau

Elfennau Dadansoddi Llenyddol

Wrth ddadansoddi testun neu ddeunydd eilaidd, mae nifer o ddulliau gwahanol y gallwn eu defnyddio. Wrth ddarllen testun am y tro cyntaf neu'r eildro, dechreuwch gymhwyso'r elfennau hyn o ddadansoddi llenyddiaeth i ennill dealltwriaeth ddyfnach, ac fel man cychwyn ar gyfer dod o hyd i ddeunydd eilaidd ac adeiladu dadl:

  • Themâu - syniadau canolog a archwiliwyd trwy gydol testun, ac sy'n cael eu mynegi trwy batrymau yn y plot, motiffau allweddol, deialog a disgrifiad. Er enghraifft, da yn erbyn drwg, bywyd a marwolaeth, newid yn erbyn traddodiad.
  • Motiffau - gwrthrychau, lluniau, seiniau neu ymadroddion sy'n ailymddangos drwy gydol testun.
  • Iaith - geirfa a gramadeg testun.
  • Strwythur - trefniant plot, iaith disgrifiad neu ddeialog testun.
  • Cystrawen - trefn geiriau a brawddegau, strwythur penillion neu baragraffau.
  • Cywair - tôn neu agwedd testun sy'n cael ei chreu gan iaith, strwythur a chystrawen.
  • Traddodiad llenyddol - confensiwn testunau penodol i archwilio themâu tebyg, defnyddio motiffau tebyg, neu fod ag ystyron neu bwrpasau tebyg.
  • Traddodiad ysgolheigaidd - safbwynt a/neu ddefnydd o ddulliau ymysg academyddion i gyflwyno testunau mewn ffordd benodol.
  • Cyd-destun hanesyddol - y cyfnod amser pan gafodd y testun ei ysgrifennu, yn cynnwys ei ddigwyddiadau, ei syniadau a llenyddiaeth arall a ysgrifennwyd mewn cyfnod tebyg.
Myfyriwr sy'n edrych ar adnoddau prifysgol

Adnoddau Prifysgol Abertawe

Mae nifer o adnoddau ar gael i chi ar rannau gwahanol o wefan y Brifysgol i'ch helpu gyda gofynion amrywiol eich aseiniadau ysgrifenedig. Sicrhewch eich bod yn bwrw golwg ar dudalen Canvas eich modiwl i ddod o hyd i adnoddau ychwanegol a phenodol - yn benodol, bydd rhestr ddarllen y modiwl bob amser yn ddefnyddiol! Dyma ychydig o adnoddau cyffredinol rydym yn meddwl y byddant yn eich helpu:

Cronfeydd data allweddol i ddod o hyd i Ffynonellau Eilaidd

Er y gallwch ddod o hyd i lawer o adnoddau o restr ddarllen modiwl, efallai byddwch eisiau dechrau edrych yn ehangach ac ymgyfarwyddo â'r adnoddau isod ar gyfer dod o hyd i ddeunydd eilaidd. Ceisiwch ddefnyddio elfennau o nodiadau dadansoddi llenyddiaeth i ddod o hyd i dermau chwilio allweddol, a gweld pa ddeunyddiau gwahanol y gallwch eu canfod yn y cronfeydd data hyn: