Gan: Katherine Watson
Mae’r cam o radd israddedig i ôl-raddedig yn ddigon i godi ofn ar unrhyw un. Mae'r olaf yn sicr yn dod â heriau newydd, ond hefyd mwy o ryddid i archwilio eich diddordebau eich hun a theilwra eich hyfforddiant. Nod y blog hwn yw pennu disgwyliadau cyffredinol ar gyfer profiad ôl-raddedig ac amlinellu sut y gallwch wneud y gorau ohono. I gael dealltwriaeth benodol o’ch rhaglen radd, edrychwch ar drosolwg y cwrs ar-lein neu cysylltwch â'ch adran.
Mae llu o resymau dros ddechrau ar radd ôl-raddedig a dyw'r naill ddim yn well na'r llall. P'un a yw'n ddilyniant i'ch diddordebau academaidd, cam angenrheidiol tuag at eich gyrfa o ddewis, neu'n gyfle olaf i wneud y gorau o'r profiad prifysgol, meddyliwch am eich rhesymau. Y rhesymau hyn yw eich cymhelliant a'ch cyfeiriad chi.
Yn aml bydd graddau ôl-raddedig yn cynnwys llai o addysgu trwy ddarlithoedd a seminarau, a mwy o astudio annibynnol. Mae'n debygol y bydd gennych derfynau amser mwy rheolaidd ac y byddwch yn cael tasgau mwy o faint i’w cwblhau. Mae natur y gwaith yn fwy hunan-dywysedig a hyblyg, gyda mwy o gyfle i ddilyn eich diddordebau ymchwil eich hun yn yr aseiniadau a osodir a'ch traethawd hir.
Bydd bod yn hyderus yn eich rhesymau dros astudio yn eich helpu i gadw’ch cymhelliant yn ystod dyddiau neu wythnosau heriol. Mae dychwelyd at y rhesymau hyn gydol eich gradd yn gallu'ch helpu i wneud y gorau o'ch astudiaeth annibynnol, yn enwedig pan fyddwch yn dechrau archwilio y tu hwnt i'r rhestr ddarllen a dyfeisio eich testunau traethawd/traethawd ymchwil eich hun.
Dod o hyd i drefn a threfniadaeth sy'n gweithio i chi
Ni allwn danbwysleisio pa mor werthfawr yw trefn sefydlog, man gwaith cyfforddus, a dulliau trefnu ar gyfer llywio’ch ffordd drwy eich gradd ôl-raddedig. Gyda llai o ddosbarthiadau wedi'u hamserlennu, a dyddiadau cau amlach, roeddwn i'n dibynnu ar Google Calendar a Notion (yn bennaf ar gyfer creu rhestr o'r pethau i'w gwneud bob dydd a phob wythnos) yn ystod fy ngradd meistr fy hun. Edrychwch ar-lein am offer a thempledi am ddim er mwyn rheoli eich amser a blaenoriaethu tasgau.
Meddyliwch am ba oriau o'r dydd a lle rydych chi'n gweithio orau. Aderyn y nos neu dderyn cynnar; llyfrgell, siop goffi, bwrdd y gegin neu'r gwely. Does dim unrhyw hierarchaeth o arferion gwaith na lleoliadau. Yr hyn y byddwn yn ei argymell yn gyffredinol fodd bynnag yw eich bod yn osgoi cymharu eich hun â chyfoedion a neilltuo amser ar gyfer seibiannau. A chofiwch y bydd cyflwyno arferion sy'n cyd-fynd â’ch dewisiadau gwaith yn eich rhoi chi mewn sefyllfa llawer cryfach pan fyddwch chi'n teimlo dan straen neu wedi'ch llethu.
Dod yn gyfarwydd ag adolygiadau llenyddiaeth
Mae’n debygol iawn y bydd gofyn i chi gwblhau o leiaf un adolygiad llenyddiaeth yn ystod eich cwrs gradd ôl-raddedig. Efallai nad ydych chi wedi dod ar draws y math hwn o aseiniad erioed o'r blaen, ond peidiwch â phoeni. Mae’r holl sgiliau sydd eu hangen i gwblhau un gennych chi, ac mae'n debygol eich bod wedi cynhyrchu mathau tebyg o waith ysgrifennu yn y gorffennol. Mae adolygiad llenyddiaeth yn archwiliad cynhwysfawr o lenyddiaeth bresennol ar bwnc penodol. Ei bwrpas yw crynhoi'r ymchwil a gynhaliwyd yn flaenorol, asesu cryfderau a gwendidau gwaith presennol, a dangos sut y gellir llenwi unrhyw fylchau yn y corff hwn o ymchwil.
Ewch ati i leddfu unrhyw bryderon trwy ddod i arfer ag adolygiadau llenyddiaeth, a sut i ysgrifennu un. Darllenwch Sut i ddechrau adolygiad o lenyddiaeth a Strwythur Adolygu Llenyddiaeth am arweiniad.
Gofyn am gymorth
Nid yw'r ffaith eich bod ar lefel ôl-raddedig, yn golygu bod disgwyl i chi wybod y cyfan neu gychwyn ar y daith academaidd hon ar eich pen eich hun. Os rhywbeth, dyma'ch cyfle i greu mwy o ddeialogau gyda staff academaidd gan y bydd unrhyw sesiynau addysgu a gewch yn debygol o gael eu cyflwyno mewn grwpiau llai a bydd mwy o drafodaeth un-i-un gydag athrawon. Mae'r llyfrgell yn cynnig cymorth ar gyfeirio a chwilio am lenyddiaeth a gallwch chwilio am gyrsiau dynodedig mentora un-i-un ar sgiliau academaidd gwahanol gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd, megis ysgrifennu, darllen, osgoi llên-ladrad a mwy. P'un a ydych chi ar goll yn llwyr o ran dechrau aseiniad neu eisiau gwthio'ch 2:1 i ddosbarth cyntaf, mae'n werth gwneud y gorau o'r arbenigedd a'r arweiniad sydd ar gael. Mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn lle gwych i ddechrau i gael gafael ar gymorth academaidd perthnasol.