Mae’n swnio’n rhy dda i fod yn wir ond ydy? Ond mae gwyddoniaeth wedi profi dro ar ôl tro bod estyn eich sesiynau dysgu dros gyfnod amser yn ffordd lawer mwy effeithiol o astudio na cheisio gwneud popeth ar yr un pryd.
Hanes Dysgu a Chof
Yn ôl yn y 1880au, dechreuodd gwyddonydd o’r enw Ebbinghaus gynnal cyfres o arbrofion ar effaith amser ar gof. I wneud hyn, ysgrifennodd gannoedd o ‘sillau disynnwyr’ wedi’u trefnu’n grwpiau o 12, a phrofodd ei allu i’w hadalw. Y canlyniad – na ddylai fod yn syndod i neb – oedd bod y geiriau disynnwyr wedi dod yn fwy anodd eu cofio gydag amser. Plotiodd ei ganlyniadau ar graff, a galwodd ei ganfyddiadau ‘Cromlin Anghofio’.
Pe bai Ebbinghaus wedi gorffen ei arbrofion yno, mae’n ddigon tebygol na fyddai neb yn cofio amdano nawr. Ond, drwy gydol ei ymchwil, daeth ar draws rhywbeth sy’n dal i fod yn un o’r darganfyddiadau pwysicaf erioed ym maes dysgu.
Roedd Ebbinghaus am wybod faint o waith byddai angen ei wneud cyn y gallai gofio rhywbeth yn gyson. Darganfu fod angen ailadrodd rhestr o sillau disynnwyr 68 o weithiau cyn y gallai sgorio 100% yn gyson mewn prawf a osododd iddo ei hun wythnos wedyn. Unwaith eto, mae’n debygol nad oes dim byd newydd yno – rydym i gyd yn gyfarwydd â’r syniad bod rhywbeth yn fwy tebygol o aros yn y cof drwy ei ailadrodd dro ar ôl tro.
Ond, canfu hefyd y gallai sgorio 100% mewn prawf drwy ailadrodd rhywbeth 38 o weithiau yn unig, pe bai’n dosbarthu’r ailadroddiadau hyn dros amser. Felly, er enghraifft, gallai ailadrodd y rhestr 13 o weithiau un diwrnod, 13 o weithiau’r diwrnod nesaf a 12 y diwrnod wedyn. Mae hynny bron hanner yr amser yn astudio, ond canlyniad gwell. A dyna rywbeth a ddylai apelio at bawb!
Mae gwyddoniaeth wedi ymchwilio ymhellach i’r darganfyddiad hwn ac wedi canfod bod ysbeidiau optimaidd ar gyfer dosbarthu eich dysgu. Dywedwn eich bod am ddysgu rhestr o eiriau newydd mewn iaith newydd.
I gael y perfformiad gorau posib, dewch yn ôl at y deunydd rydych am ei ddysgu ar ôl ysbeidiau o un diwrnod, un wythnos, yna un mis.
Pam mae’n gweithio
Mae’n bosib eich bod wedi clywed y syniad o’r blaen – po fwyaf rydych yn meddwl am syniad, mwyaf y caiff ei wreiddio yn eich meddwl. Gallech weld y meddyliau hyn fel llwybrau drwy gae o wair – po fwyaf rydych yn cerdded ar eu hyd, mwyaf sefydledig y byddant.
O ran dysgu – dychmygwch fod angen i chi gofio dyddiadau nifer o achosion cyfraith pwysig. Os ydych yn ailymweld â’r deunydd bob dydd, mae’n debyg i gerdded i lawr yr un llwybr bob dydd. Ni fydd y llwybr yn newid gormod oherwydd yr oedd yno ddoe hefyd. Ond, dywedwch eich bod yn ei adael am wythnos. Pan ddychwelwch iddo, mae’r llwybr wedi tyfu’n wyllt a bydd angen i chi weithio’n fwy caled i gerdded drwy’r gwair. Efallai y bydd angen pladur arnoch, neu o leiaf esgidiau mwy. Ond erbyn diwedd y gwaith caled hwnnw, bydd gennych lwybr dyfnach o lawer – un y bydd yn haws cerdded ar ei hyd y tro nesaf i chi ddod y ffordd hon.
Mae’r un peth yn wir am ddysgu – po fwyaf caled bydd angen i chi weithio i adalw gwybodaeth i gof, mwyaf bydd y cynnydd yn eich dysgu. Mae damcaniaeth yn bodoli o’r enw Desired Difficulty – sy’n dweud yn syml y dylech wneud dysgu’n anodd i chi eich hun i gynyddu’ch gallu i adalw gwybodaeth.
Cam Gweithredu
Pryd bynnag byddwch yn astudio rhywbeth newydd, gwnewch nodyn mewn calendr neu ddyddiadur i adolygu’r deunydd hwnnw ar ddyddiad diweddarach. Cofiwch, dylai’r ysbaid cyntaf fod yn weddol fyr, yna gallwch gynyddu’r amser rhwng sesiynau dysgu yn raddol. Mae 1 diwrnod, 3 diwrnod, 1 wythnos, 1 mis yn gymhareb dda i roi cynnig arni i ddechrau. Does dim rhaid i chi ddilyn yr union gymarebau hyn – mae unrhyw ddosbarthu’n well na dim.
Os nad ydych chi wedi arfer â defnyddio dyddiadur neu galendr – mae meddalwedd gwych ar gael i’ch helpu i fod yn drefnus.
Supermemo yw’r meddalwedd a ddeilliodd yn uniongyrchol o ganfyddiadau Wozniak (y myfyriwr meddygaeth Pwylaidd y cyfeiriais i ato).
Anki dyma un arall sy’n cael ei argymell – dwi ddim wedi treulio llawer o amser yn ymchwilio i hyn, ond dwi’n meddwl ei fod yn caniatáu i chi amserlennu’ch cardiau fflach atgoffa.