Person yn cyflwyno poster

Awdur: Katherine Watson

Mae posteri'n ffordd ysgogol a hygyrch o gyfleu eich ymchwil academaidd. Efallai y gofynnir i chi greu poster yn ystod eich astudiaethau. Mae'r blog hwn yn cynnwys awgrymiadau da ar gyfer cynllunio a chyflwyno poster o safon!

Cynnwys:

  1. Dylech ystyried beth rydych yn mynd i'w gynnwys yn eich poster. A yw'n gyflwyniad ar gyfer pwnc ymchwil? Neu'n grynodeb o'r ymchwil a gynhaliwyd? Mae'n gwneud synnwyr i strwythuro eich poster fesul is-benawdau a fyddai'n cael eu cynnwys mewn darn hwy o waith. Mae’n debygol y bydd eich poster yn cynnwys cyflwyniad neu grynodeb, cefndir neu lenyddiaeth, dulliau, canlyniadau neu ganlyniadau disgwyliedig, a thrafodaeth neu gasgliad.
  2. Cadwch e'n gryno. Dylai eich poster fod yn hawdd ei sganio a'i ddeall mewn llai na 5 munud. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llunio neges benodol i ddarllenwyr ac yn cyfleu hyn yn glir ac yn gryno drwy gydol y poster. Yn ogystal ag is-benawdau, gallwch ddefnyddio pwyntiau bwled lle bo'n berthnasol. Dylech gadw brawddegau i lai nag 20 o eiriau a pharagraffau o dan 100 gair.
  3. Gwnewch e'n hygyrch. Gall ymchwil academaidd fod yn gymhleth, a darnau ysgrifenedig hir yn ddryslyd. Mae posteri'n gyfle i wneud ymchwil yn hygyrch, yn ysgogol ac yn gyffrous i gynulleidfaoedd lleyg. Defnyddiwch deitl bachog a chynnwys lluniau a diagramau. Ceisiwch osgoi jargon lle bynnag y bo'n bosib a byddwch yn siŵr eich bod yn esbonio termau technegol. Ym mhob paragraff, dylech gyfleu'r neges gyffredinol yn y brawddegau cyntaf. Dylai darllenydd allu deall neges gyffredinol eich poster drwy fras-ddarllen brawddegau cyntaf pob adran!
  4. Cyfeirnod. Mae poster yn gyfle gwych i fod yn greadigol ac yn anffurfiol yn wahanol i draethawd, ond rhaid cefnogi eich gwaith ymchwil â chyfeiriadau ac enghreifftiau cadarn. Dylech labelu eich ffigurau a chynnwys llyfryddiaeth hefyd.
  5. Enw, sefydliad a manylion cyswllt. Nodwch eich enw llawn, eich cyfeiriad e-bost a'ch sefydliad academaidd yn glir. Mae hyn yn arfer da wrth gyflwyno poster yn gyhoeddus lle dylai eich darllenwyr allu cysylltu â chi'n hwylus i gael mwy o wybodaeth.
Person yn braslunio poster academaidd

Dyluniad:

  1. Portread neu dirlun? Gall y naill neu'r llall weithio. Dylech benderfynu beth sy'n gweithio orau i chi; mae'r cyngor isod yn berthnasol i'r ddau.
  2. Dylech ddal diddordeb y darllenydd. Bydd cynllun lliw sydd wedi'i ddewis yn dda yn gwneud i'ch poster serennu. Mae lliwiau llachar yn wych ond ceisiwch osgoi lliwiau sy'n gwrthdaro. Defnyddiwch olwyn lliwiau (ar gael ar-lein) i'ch tywys o ran lliwiau sy'n ategu ei gilydd. Dylech ystyried pa mor hygyrch yw eich dewis o liwiau i'r rhai hynny sydd â nam ar y golwg. Er enghraifft, dylech osgoi ffont coch ar gefndir gwyrdd neu i'r gwrthwyneb.
  3. Dylech allu dal sylw eich darllenydd. Peidiwch â gor-lenwi eich poster â chynnwys, boed yn destun neu'n lluniau! Mae'r cyfrif geiriau'n hyblyg; byddai rhai'n cynghori cyfyngu i 1,000 o eiriau (yn achos poster A1), ond gallech ddewis defnyddio llai os bydd eich poster yn cael ei argraffu ar dudalen A2 neu A3. Defnyddiwch sawl llun, diagram neu fap i dorri'r testun.
  4. Hawdd ei ddarllen. Ar ôl ei argraffu, dylech allu darllen poster 1 - 2 fetr i ffwrdd. Dylech gadw testun prif ddarn y poster i o leiaf 24 pwynt a defnyddio teipysgrif hawdd ei ddarllen megis Arial, Georgai, Helvetica neu Open Sans.
  5. Wedi'i gydbwyso'n gyfansoddol ac wedi'i drefnu'n eglur. Defnyddiwch y dudalen gyfan a threfnwch eich cynnwys yn ôl hierarchaeth weledol. Mae'n gwneud synnwyr i osod eich teitl ar y brig neu ar y chwith ar y brig gan mai i'r fan honno y bydd llygaid darllenwyr yn mynd yn gyntaf. Mae croeso i chi feddwl "y tu allan i'r bocs" o ran eich trefniant, ond mae'n syniad da i osod adrannau olynol fel bod eich darllenydd yn gallu eu dilyn nhw o'r chwith i'r dde ac o'r brig i'r gwaelod. Yn dilyn y rhesymeg hon, byddai eich casgliadau yn y gornel dde isaf.
  6. Tynnwch sylw at wybodaeth allweddol. Defnyddiwch brint trwm neu italig i dynnu sylw at wybodaeth allweddol a defnyddiwch liw neu ffontiau mwy i amlygu adrannau cyfan.
  7. Gwaith cwblhau. Defnyddiwch ansawdd uchel ac eglurder yn hytrach na’r rhai hynny sy'n llawn picseli neu'n aneglur. Dylech brawf-ddarllen am wallau gramadeg a sillafu.
Blwch cludfwyd Tsieineaidd

Pwyntiau i'w hystyried:

  • Dylech lunio neges glir i'w hystyried: cadwch bopeth yn gyson
  • Dylech gynnwys penawdau, capsiynau, lluniau neu ddiagramau ystyrlon
  • Dylech grynhoi unrhyw gysyniadau neu setiau data cymhleth
  • Byddwch yn greadigol ac arbrofwch â lliw a chynllun
  • Cofiwch eich cynulleidfa