Menyw yn cyflwyno ar lwyfan

Yn ystod dosbarthiadau ac apwyntiadau sgiliau cyflwyno’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd yn aml bydd pobl yn gofyn i mi am eiriau o gyngor i wella eu cyflwyniadau. Fy ymateb mwyaf aml yw ‘meddyliwch am y strwythur yn ofalus’. Bydd y mwyafrif o bobl yn ceisio cynnwys llawer o ffeithiau a gwybodaeth ddiddorol yn eu cyflwyniadau heb feddwl am y fframwaith er mwyn cyfleu’r wybodaeth honno i’r gynulleidfa. Mae hon yn broblem oherwydd oni bai bod y strwythur yn glir iawn bydd pobl yn mynd ar goll yn gyflym ac nid oes modd iddynt ddehongli’r wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno mewn ffordd ddefnyddiol.

Yn aml byddaf yn gwneud cyfatebiaeth yn fy meddwl rhwng adeiladu adeilad a llunio cyflwyniad. Ar gyfer adeiladau, yn gyntaf mae’n rhaid i’r pensaer ddylunio fframwaith cadarn a deniadol cyn i’r adeiladwyr osod y deunyddiau. Pe bai’r adeiladwyr yn defnyddio’r deunyddiau cyn i’r pensaer gael cyfle i ddylunio unrhyw beth yna pentwr o bren, briciau a sment fyddai gennych chi. Yn yr un ffordd mae angen bod cyflwynydd wedi llunio fframwaith ar gyfer y wybodaeth cyn ei gysylltu ynghyd er mwyn i’r negeseuon fod yn glir a chofiadwy.

arwydd sy'n pwyntio at wahanol leoliadau

Wrth gwrs, mae llunio fframwaith ar gyfer cyflwyniad yn llawer haws na dylunio adeilad. Mewn gwirionedd, mae’n gwestiwn o fod ag adrannau amlwg â chyfeirio clir rhyngddynt. Fel arfer, mae cyflwyniadau sydd wedi’u strwythuro’n glir yn rhoi rhagymadrodd sy’n cyflwyno’r siaradwr, yn disgrifio’r mater ac yn bwysicaf oll yn cynnwys datganiad amlinellol sy’n disgrifio beth fydd prif bwyntiau’r cyflwyniad. Yna bydd y siaradwr yn symud i’r prif bwyntiau, tri ohonynt fel arfer ar gyfer cyflwyniad 10 i 15 munud er gellid cynnwys is-bwyntiau hefyd. Yn olaf bydd y siaradwr yn cynnwys diweddglo sy’n crynhoi’r prif bwyntiau ac sy’n cynnwys rhywbeth i’w feddwl amdano ar y diwedd gan obeithio atgyfnerthu pam bod yr holl wybodaeth hon yn ddefnyddiol mewn ffordd ddiddorol.

Rhwng y rhagymadrodd, pob un o’r prif bwyntiau a’r diweddglo bydd y siaradwr yn defnyddio pontio clir. Fel arfer y mae’r rhain yn cynnwys ychydig o frawddegau sy’n crynhoi’r wybodaeth flaenorol ac sy’n arwain y darllenydd i brif bwynt newydd. I wneud cyfatebiaeth arall i adeilad, y prif bwyntiau yw lloriau’r adeilad, yna y pontio yw’r grisiau rhyngddynt; maent yn caniatáu i’r siaradwr fynd â’r gynulleidfa o un pwynt i’r llall. Mae pontio rhwng adrannau mewn cyflwyniad yn union fel ceisio cysylltu paragraffau mewn traethawd fel bod y wybodaeth yn glir ac yn hawdd ei dilyn. Heb bontio clir gall y gynulleidfa fynd ar goll. Os nad ydych yn sicr o ran pa fath o iaith i’w defnyddio, peidiwch â phoeni ceir llwyth o ‘ymadroddion pontio’ sy’n cael eu defnyddio’n helaeth gan siaradwyr er mwyn cadw’r gynulleidfa ar ben y trywydd cywir wrth iddynt symud rhwng adrannau. Edrychwch yma fel man cychwyn: Six Minutes

roced yn lansio

Nid gwyddoniaeth rocedi mo’r pethau fy mod wedi’u trafod yma, mewn gwirionedd maent yn bethau syml iawn ond cewch eich synnu faint o bobl sy’n methu â dilyn y rheolau syml hyn wrth draethu ond yn hytrach cyflwynir llwyth o wybodaeth anamlwg sy’n achosi i’r gynulleidfa deimlo’n rhwystredig. Felly, y tro nesaf y byddwch yn llunio cyflwyniad, treuliwch amser yn meddwl am eich prif adrannau a’ch pontio a siŵr o fod y daw eich cyflwyniad yn llawer cliriach.