Fel myfyriwr, beth yw’ch ofn mwyaf? Byddai methu arholiadau ac asesiadau’n debygol o fod ar frig y rhestr ar gyfer llawer. Ond beth am bryderon yn eich bywyd o ddydd i ddydd fel myfyriwr? Un ofn sydd efallai’n eithaf cyffredin yw codi’ch llais yn y dosbarth, boed i ateb neu i ofyn cwestiwn. Roedd hyn yn wir yn bendant pan oeddwn i’n astudio yn y brifysgol, ac roedd y tawelwch annifyr iawn yn ein gwersi cemeg yn dyst i hyn. Ac er nad ydw i’n meddwl bod darlithoedd yn lleoedd arbennig o frawychus, mae llawer o bobl yn dal i deimlo’n nerfus am siarad yn uchel. Mae hynny’n drueni, oherwydd gall holi ac ateb fod yn rhan ddefnyddiol o ddarlith. Mae cwestiynau’n rhoi cyfle i chi gael eglurhad am unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall. Gall siarad mewn darlithoedd a rhyngweithio â’r darlithydd wneud darlith yn fwy difyr hefyd a helpu’r darlithydd i gyfathrebu â’r gynulleidfa.
Felly, beth gallwch ei wneud i deimlo’n fwy cyfforddus am hyn? Ar gwrs sgiliau cyflwyno’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd, rydym yn trafod sut i fagu hyder a lleihau nerfau wrth gyflwyno. Gall rhai o’r camau gweithredu y gellir eu cymryd i leihau nerfau fod yn ddefnyddiol hefyd wrth ofyn ac ateb cwestiynau mewn darlith (wedi’r cwbl, dim ond math arall o siarad yn gyhoeddus yw hyn). Un peth defnyddiol yw gweld yr amser holi ar ddiwedd y ddarlith fel cyfle yn hytrach na bygythiad. Rydych chi wedi gweithio’n galed i gael lle yn y brifysgol, felly beth am fanteisio i’r eithaf ar y cyfle? Mae’n bosib na fydd llawer o gyfleoedd eraill mewn bywyd i ofyn cwestiynau a dysgu gan arbenigwr mewn maes rydych yn ymddiddori ynddo. Gallai paratoi cwestiwn ymlaen llaw fod yn gam defnyddiol. Hefyd, mae’n bwysig peidio â phoeni gormod beth bydd pobl eraill yn ei feddwl am eich cwestiwn. Rwyf wedi benthyca’r egwyddor ‘beiddiwch fod yn ddi-nod’ o sgwrs Matt Abrahams ar dechnegau cyfathrebu a allai fod yn briodol yma. Weithiau, mae’r risg o ddweud rhywbeth twp a phobl yn meddwl eich bod yn ddwl yn codi ofn arnom; ond mae’n debygol y byddai’n ddoethach i’r rhan fwyaf ohonom anwybyddu’r risg hon a gofyn cwestiwn yn hytrach na chadw’n dawel. Ar ben hyn, hyd yn oed os byddwch yn dweud rhywbeth braidd yn amherthnasol, mae gwneud camgymeriadau’n rhan o’r profiad dynol. Mae fideo ‘Ysgol Bywyd’ am ‘sut i fod yn hyderus’ yn trafod camgymeriadau a hyder yn fanylach.
Un peth arall a allai eich helpu i ateb cwestiynau yw creu rhyw fath o fframwaith i strwythuro ateb. Os bydd y cwestiwn yn gofyn am eglurhad, ffordd dda o strwythuro’ch ateb allai fod ei roi ar ffurf paragraff: cyflwynwch y pwnc; darparwch eglurhad a/neu dystiolaeth; rhowch eich casgliad. Dylai dilyn y strwythur hwn eich helpu i lunio ateb rhesymegol.
Ar ôl i chi ddechrau gofyn ac ateb rhagor o gwestiynau, byddwch yn debygol o weld y cyfle sydd gennych fel myfyriwr yn y ddarlithfa yn gliriach, a byddwch yn dechrau mwynhau darlithoedd yn well. Mae’n debygol hefyd, po fwyaf rydych yn siarad, mwyaf hyderus byddwch yn teimlo, a fydd un fanteisiol, nid yn unig yn eich astudiaethau, ond yn eich bywyd proffesiynol hefyd.
Wedi dweud hynny, un peth olaf dylwn ei bwysleisio am fynd i ddarlithoedd a gofyn cwestiynau yw pwysigrwydd gwrando. Mae’r cwestiynau gorau’n cael eu gofyn gan bobl sy’n gwrando ac sydd wedi paratoi’n effeithiol ar gyfer y ddarlith. Os ydych yn mynd i’r drafferth o fynd i’r ddarlith man a man i chi wneud ymdrech i baratoi a gwrando hefyd.