Mae'n rhaid i lawer o bobl roi cyflwyniadau am bob math o resymau ac yn aml nid y cynnwys sy'n peri problemau ond popeth arall! Felly gadewch i ni ganolbwyntio ar elfennau pwysig eraill cyflwyniad:-
1. Cyswllt Llygad
Cofiwch gadw cyswllt llygad gyda'r gynulleidfa. Dyw hynny ddim yn golygu sganio'r gynulleidfa yn barhaus fel sbotolau symudol neu syllu ar unrhyw un yn eich cynulleidfa (gan y gall hynny daflu rhywun) ond mae yn golygu caniatáu i'r gynulleidfa gredu eich bod chi'n cyfathrebu â nhw i gyd a'u bod i gyd yn gyfranogwyr yn y digwyddiad hwn. Bydd cynnal cyswllt llygaid cyson (ond nid bygythiol) yn eich atal rhag edrych ar y llawr, y nenfwd neu eich nodiadau hefyd. Does neb yn gwerthfawrogi siaradwyr sy'n glynu'n gaeth wrth eu sgriptiau.
2. Iaith y Corff
Cofiwch sefyll yn syth ac yn hyderus a dangos agwedd gadarnhaol. Peidiwch â sefyll yn llipa, plygu eich breichiau, cadw eich dwylo yn eich pocedi drwy'r amser na bod yn aflonydd gan fod y rhain i gyd yn tynnu sylw cynulleidfa am y rhesymau anghywir. Mae'n dderbyniol cerdded ychydig ond dim gormod oherwydd, unwaith eto, gall hynny dynnu sylw oddi wrth brif ffocws y cyflwyniad a dylech wynebu eich cynulleidfa bob amser, felly peidiwch byth â throi eich cefn ar eich gwrandawyr. Peidiwch â bod ofn defnyddio eich dwylo neu'ch breichiau i atgyfnerthu rhywbeth rydych chi'n ei ddweud ond unwaith eto ddim yn ormodol gan y gall hynny fynd dan groen pobl.
3. Llais
Siaradwch mor glir ag y gallwch (dim mwmian) a dod o hyd i'r cyflymder cywir – ddim yn rhy gyflym nac yn rhy araf. Efallai na fydd meicroffon ar gael bob amser pan fyddwch chi'n gwneud cyflwyniad (gwiriwch hyn ymlaen llaw) felly dysgwch daflu eich llais ond peidiwch â gweiddi. Cofiwch ymarfer cymaint ag sy'n angenrheidiol gyda ffrindiau neu deulu neu recordiwch eich hun dro ar ôl tro ar eich ffonau neu lechi nes eich bod chi'n fodlon y gallwch chi wneud y cyflwyniad yn naturiol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n caniatáu amser i anadlu, felly cofiwch ymgorffori seibiau yn y mannau cywir gyda defnydd synhwyrol o iaith gyfeirio. Dylai cael digon o ymarfer a gwybod eich cynnwys eich atal rhag gwneud seibiau annaturiol a dweud 'aa', 'ym’.
4. Bod yn gadarnhaol
Dangoswch frwdfrydedd am eich cyflwyniad trwy ddangos egni cadarnhaol, edrychwch fel eich bod yn frwd ynghylch yr hyn rydych chi'n sôn amdano (actiwch os oes angen; er, os nad ydych chi’n frwd, pam ydych chi'n gwneud hyn i gyd yn y lle cyntaf?) Peidiwch â bod ofn gwenu!
5. Ateb cwestiynau
Efallai y bydd y sesiwn holi ac ateb yn teimlo fel Chwil-lys Sbaen ond mae'n rhan arferol o'r holl senarios ar gyfer cyflwyniadau. Yn anochel, yn ystod neu ar ôl cyflwyniadau, bydd cwestiynau gan y gynulleidfa. Y ffordd orau o baratoi ar gyfer y cwestiynau hyn yw gwybod eich pwnc mor fanwl ag y gallwch.
Yn gyffredinol, dyw pobl sy'n gofyn cwestiynau mewn cyflwyniadau ddim yn mynd allan o'u ffordd i'ch tanseilio neu’ch baglu. Mae ganddyn nhw ddiddordeb gwirioneddol yn yr hyn rydych chi wedi'i ddweud ac eisiau gwybod mwy, felly atebwch yn unol â hynny, wedi'r cyfan, mae'n wych eu bod wedi gwneud yr ymdrech i wrando ar yr hyn rydych chi wedi'i ddweud ac yn dal i fod eisiau gwybod mwy.
Byddwch mor haelionus a chwrtais ag y gallwch chi wrth ateb cwestiynau gan eich cynulleidfa. Byddwch yn agored, os nad ydych chi’n gwybod yr ateb, peidiwch â dyfeisio ateb, byddwch yn barod i ddweud yn gwrtais nad ydych chi’n gwybod yr ateb a'i fod yn faes y bydd angen i chi ymchwilio iddo ymhellach neu ei fod y tu allan i gwmpas y pwnc presennol. Peidiwch byth â rholio eich llygaid na gwneud unrhyw ystum negyddol arall yn dilyn cwestiwn. Os oes angen amser arnoch i ystyried ateb, defnyddiwch ymadrodd fel 'mae yna sawl ffordd y gellid datrys y cwestiwn/mater ond rwy'n meddwl….’ dim ond er mwyn rhoi ychydig o eiliadau hanfodol i chi feddwl ond heb dawelwch llethol yn llenwi'r ystafell.
Yn bennaf oll, ceisiwch fwynhau'r profiad o gyflwyno. Ie, chi fydd yn hawlio'r sylw felly manteisiwch ar y cyfle i ddisgleirio!