Awdur: Katherine Watson
Gall dechrau adolygiad o lenyddiaeth fod yn dasg frawychus. Mae adolygiad o lenyddiaeth yn agwedd sylfaenol ar draethawd hir, ond efallai y gofynnir i chi hefyd lunio adolygiad o lenyddiaeth annibynnol. Efallai eich bod yn anghyfarwydd â'r term adolygiad o lenyddiaeth, a'r peth cyntaf i'w nodi yw nad yw mor wahanol â thraethodau rydych wedi arfer eu hysgrifennu...
Beth yw adolygiad o lenyddiaeth?
Mae adolygiad o lenyddiaeth yn grynodeb beirniadol o'r gwaith presennol ar bwnc a ddewiswyd. Yn bwysig, nid yw'n rhestr nac yn ddisgrifiad o BOB testun sy'n berthnasol i'ch pwnc. Dylai eich adolygiad o lenyddiaeth ystyried syniadau, dadleuon, damcaniaethau, dulliau a hepgoriadau pwysig ar draws y llenyddiaeth dan sylw. Yn hytrach nag ailadrodd neu aralleirio'r wybodaeth hon, mae adolygiad o lenyddiaeth yn cyfleu eich gwerthusiadau a'ch cymariaethau eich hun rhwng y testunau hyn a dylai dynnu sylw at y gwersi allweddol a ddysgwyd o'r darlleniadau hynny.
Cam 3: Darllen beirniadol
Mae'n bwysig bod yn ddetholus, does dim amser gennych i ddarllen popeth. Gellir dod o hyd i awgrymiadau ar sut i fod yn ddarllenydd mwy effeithiol ac effeithlon yma.
Er y gall fod corff mawr o lenyddiaeth, fel arfer gwelwch ailadrodd a thir cyffredin rhwng testunau. Gwnewch nodyn o'r nodweddion tebyg hyn, yn ogystal â lle mae ymagweddau neu ddadleuon yn wahanol ac yn gwrthgyferbynnu.
Dylech gael gwared ar unrhyw ffynonellau nad ydynt yn berthnasol ar ôl i chi ddarllen, a chyfnerthu eich rhestr/tabl o lenyddiaeth graidd.
Cam 4: Dadansoddi Beirniadol
Dyma'ch cyfle i ymhelaethu ar eich cofnod o lenyddiaeth graidd drwy lunio eich crynodeb a'ch myfyrdod ar y testunau eich hun. Dylech ddychwelyd at unrhyw nodiadau rydych chi wedi'u hysgrifennu eisoes ac ailddarllen adrannau perthnasol o'r testunau os oes angen. Peidiwch ag ailadrodd eu dadleuon yn unig (er y gallwch nodi nifer bach o ddyfyniadau). Canolbwyntiwch ar y prif bwnc sydd dan sylw!
Gellir defnyddio'r cwestiynau isod fel awgrymiadau i'ch annog i feddwl yn feirniadol:
- Beth yw'r prif ddamcaniaethau/gysyniadau/ddulliau/ymagweddau sy'n cael eu defnyddio? Sut maen nhw'n cael eu cyfiawnhau? Beth yw'r nodweddion allweddol?
- A yw'r casgliadau'n rhesymegol ac yn cael eu hategu'n dda?
- A yw'r wybodaeth yn cyd-fynd â'r hyn rydych chi'n ei wybod eisoes?
- A yw'n gwrthddweud neu'n anghytuno â thystiolaeth neu ddadleuon eraill?
- A oes bylchau neu gyfyngiadau? Ydy'r awdur wedi anwybyddu neu gamddeall unrhyw beth?
- Sut gallwch chi ddefnyddio hwn yn eich gwaith eich hun?
Wrth i chi feddwl, YSGRIFENNWCH! Bydd hyn yn eich helpu i brosesu'ch syniadau, a bydd y nodiadau hyn yn debygol o gael eu cynnwys yn eich adolygiad o lenyddiaeth wrth i chi ddechrau ei ysgrifennu'n ffurfiol.