Fe wnes i ddarganfod manteision 'ysgrifennu cymdeithasol' yn gyntaf wrth geisio gorffen fy adroddiad cymhwyso PhD fel mam newydd yn ôl yn 2011. Byddwn ni'n cwrdd â dwy o famau eraill am sesiynau ysgrifennu rheolaidd (un yn fyfyriwr MA a'r llall yn hanesydd) yn ein hoff gaffi yn y Mwmbwls. Er mawr syndod i ni, roedd y ffordd hon o weithio mewn pyliau byr rhwng cyfnodau cysgu a bwydo'r baban (uchafswm o 30 munud o amser ysgrifennu llwyr efallai), a'r ymrwymiad y bydden ni yno doed a ddelo, yn eithriadol o gynhyrchiol. Llwyddais i gyflwyno'r adroddiad cymhwyso hwnnw, pasiodd y fam MA ei gradd Meistr gyda chlod a bri ac fe orffennodd yr hanesydd y llyfr yr oedd hi'n gweithio arno a'i gyhoeddi.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, darganfyddais nad yw'r cysyniad hwn o gyfarfod yn gymdeithasol i ysgrifennu am gyfnodau byr yn rhywbeth newydd a chaiff ei ddefnyddio gan ysgrifenwyr proffesiynol, myfyrwyr ac academyddion ledled y byd er mwyn gwneud y mwyaf o gynhyrchiant. Dechreuodd y mudiad, a elwir yn Shut Up and Write! yn San Francisco. Mae Shut Up and Write! Yn gwneud yr union beth y mae'r teitl yn ei ddweud. Mae awduron yn dod at ei gilydd ac yn canolbwyntio ar gynhyrchu testun mewn cyfnodau byr o 25 munud. Mae egwyl fer rhwng pob sesiwn ffocws i awduron sgwrsio a rhannu syniadau cyn mynd yn ôl am y cyfnod nesaf.