Mae ysgrifennu blog ymchwil yn ffordd o egluro eich syniadau. Wrth i chi ysgrifennu, rydych chi'n dechrau dod i adnabod eich dadleuon eich hun i raddau mwy. Felly, bydd unrhyw fynegiant o'r hyn rydych chi'n ymchwilio iddo yn fuddiol i'ch gwaith. Mae ysgrifennu blog yn rhoi eich gwaith ar y llwyfan cyhoeddus hefyd. Er y gall hyn ymddangos yn heriol, mae'n ddefnyddiol. Bydd y rhan fwyaf o bobl byth yn derbyn sylwadau negyddol, dim ond rhywfaint o feirniadaeth adeiladol efallai. Bydd mwyafrif helaeth y gymuned ar-lein (boed n bobl rydych chi'n eu hadnabod, neu'r rhai dydych chi ddim yn eu hadnabod), eisiau eich cefnogi chi ac mae'r ffaith bod eich gwaith yn ymddangos ar-lein yn golygu y gall mwy o bobl ymgysylltu â chi. Gallai awgrymiadau fod yn cymryd agwedd ychydig yn wahanol at eich pwnc, neu gallai pobl argymell ffynonellau a fyddai'n eich helpu.
Gall blog helpu ar lefel ymarferol hefyd. Weithiau, er efallai eich bod chi'n teimlo nad ydych chi wedi gwneud digon o gynnydd, byddwch chi wedi gwneud cryn dipyn o waith a gall blog sydd wedi'i bostio ar-lein eich atgoffa o hyn. Mae'n bwysig cofio nad yw faint o waith rydych chi wedi'i wneud a faint o gynnydd rydych chi wedi'i wneud yr un peth o reidrwydd. Weithiau mae'r gwaith ysgrifennu'n llifo'n rhwydd neu rydych chi'n canfod yr un ffynhonnell allweddol honno roeddech chi'n chwilio amdani, ond weithiau mae pob un gair yn llafurus a dyw'r ffynhonnell y daethoch chi o hyd iddi ddim mor wych ag yr oeddech chi'n ei obeithio. Peidiwch ag anobeithio. Fe gewch chi'r hyder i ddal ati os ydych chi'n siŵr eich bod chi'n gwneud y peth iawn. Os ydych chi'n taro golwg ar eich postiadau blog, dylai hynny eich atgoffa pam rydych chi'n astudio a dylai eich atgoffa o ba mor bell rydych chi wedi dod. Y rhan fwyaf o'r amser mae pethau'n mynd yn dda pan fyddwch chi'n ymchwilio a dim ond mater o ddal ati yw hi, ond pan fydd pethau'n anodd, dylai blog eich helpu chi.
Yn olaf, dylai ysgrifennu blog ymchwil fod yn rhywbeth dymunol. Bydd gallu siarad am eich pwnc mewn ffordd gryno yn helpu pan fydd ffrindiau neu deulu’n gofyn beth rydych chi'n ei astudio. Hefyd, mae'n ddefnyddiol cael rhywle i gyfeirio pobl ato os ydyn nhw am wybod mwy am eich gwaith. Pob lwc!