Person sydd â gwallt

Gan Katherine Watson

Wedi gorffen eich aseiniad o'r diwedd ond yn sylweddoli eich bod chi wedi ysgrifennu mwy na nifer y geiriau gofynnol? Neu efallai eich bod hanner ffordd drwy ysgrifennu ac eisoes ymhell dros y terfyn? Dyma rai awgrymiadau ar sut i leihau nifer eich geiriau.

Cofiwch fod yna reswm dros gyfanswm geiriau; mae'n ganllaw ar gyfer dyfnder a chwmpas yr hyn y disgwylir i chi ei fodloni mewn aseiniad. Fodd bynnag, mae hunan-olygu yn gyfle gwych hefyd i fireinio'ch dadl a chryfhau eich gwaith yn ei gyfanrwydd.

Beth i'w ddileu

 

Edrychwch ar ganllawiau'r aseiniad 

Os yw ar gael, cyfeiriwch yn ôl at ganllawiau gwreiddiol yr aseiniad. Nid yw'n anghyffredin i'ch darlithydd osod ffiniau'r aseiniad;. Mae unrhyw ganllawiau yno i arwain eich strwythur a'ch dyraniad geiriau. Os gofynnwyd i chi gynnwys tri phwnc yn yr aseiniad hwn, a'ch bod wedi defnyddio 60% o'ch geiriau ar y pwnc cyntaf a dim ond wedi rhannu 40% rhwng y ddau arall, yna mae’n siŵr y dylech chi docio’r pwnc cyntaf.

Gormod o ddisgrifiadau

Mae'n llawer mwy cyffredin i fyfyrwyr ddefnyddio gormod o’u nifer geiriau gyda disgrifiadau yn hytrach na dadansoddi. Yn gyffredinol, i gyrraedd gradd dosbarth cyntaf neu 2:1, bydd angen digon o werthuso a dadansoddi arnoch. Dylid rhoi cryn bwyslais ar hyn ym mhob paragraff a'r traethawd yn ei gyfanrwydd. Os oes gennych adrannau mawr sy'n ddisgrifiadol yn bennaf, ystyriwch a yw'r cyfan yn gwbl angenrheidiol.

person yn torri papur

Sut i ddileu geiriau:

 

Cofiwch, dim ond hyn a hyn o eiriau sengl allwch chi eu dileu 

Bydd cribo trwy'ch gwaith i fyrhau ymadroddion geiriol, dileu 'the' neu 'that', a dileu adferfau ac ansoddeiriau blodeuog yn tynhau eich brawddegau ac mae'n ffordd wych o wneud eich ysgrifennu'n gliriach. Fodd bynnag, nid dyma'r strategaeth ar gyfer dileu cannoedd (neu filoedd) o eiriau.

Sicrhewch fod eich dadl yn gwbl glir

Beth yw eich prif ddadl? Pa wybodaeth sydd angen ei throsglwyddo ar hyd y ffordd er mwyn cyfleu'r neges? Mae'r rhain yn gwestiynau i'w cadw mewn cof gydol y broses o gynllunio ac ysgrifennu'r traethawd. Fodd bynnag, hyd yn oed ar y diwedd un, mae'r awgrymiadau hyn yn gallu symleiddio eich gwaith ysgrifennu. Dylai fod gan eich dadl ddilyniant rhesymegol, dylai pob paragraff ac adran arwain at y nesaf, a chynnig dealltwriaeth newydd sy'n ategu eich dadl gyffredinol.

Dychmygwch gyfres o gerrig camu ar draws afon; eich tasg chi yw gosod y cerrig hyn er mwyn i'r darllenydd allu cyrraedd yr ochr arall. Mae pob carreg yn baragraff, gan ddechrau gyda'r cyflwyniad a gorffen gyda'r casgliad. Pan fydd eich cyrchfan yn gwbl glir (hynny yw eich prif ddadl) gallwch fod yn fwy gwrthrychol a phenderfynu a yw eich holl baragraffau’n angenrheidiol. Efallai y bydd rhai cerrig fymryn i'r chwith neu'r dde o'r prif lwybr ond sy'n cyflwyno safbwynt neu esiampl ddiddorol. Efallai y byddwch yn penderfynu na ddylent hawlio paragraff (neu garreg) eu hunain ond y dylid eu hychwanegu fel troednodyn neu eu crynhoi mewn brawddeg a'u cyfuno â pharagraff arall.

Unwaith y byddwch yn glir ynghylch eich dadl, mae'n haws bod yn glir am swyddogaeth pob paragraff. Os allwch chi grynhoi rôl paragraff mewn un frawddeg [Cyngor: gall fod yn frawddeg agoriadol ar gyfer y paragraff hwnnw] yna gallwch fireinio'r paragraff hwnnw ymhellach. Yw'r holl enghreifftiau a gynigir yn y paragraff hwnnw’n angenrheidiol i gyfleu'r pwynt? Allwch chi gyrraedd y pwynt hwnnw'n gynt yn hytrach na chynnwys rhaglith?

arwydd gorsaf drenau dro ar ôl tro

 

Osgoi ailadrodd a defnyddio dull cyfeirio

 

Os oes dilyniant rhesymegol i'ch dadl, ni ddylai fod angen ailadrodd pwyntiau rydych eisoes wedi'u gwneud. Weithiau gall myfyrwyr ddefnyddio ailadrodd i gadarnhau eu dadl, neu i wneud cysylltiadau â gwybodaeth newydd. Yn hytrach na defnyddio paragraff cyfan i greu cyswllt, gallwch gyflawni'r effaith a ddymunir mewn un frawddeg gyda'r defnydd o ymadrodd cyfeirio. Er enghraifft, 'Gan adeiladu ar fy nadl gynharach...', 'Fel y trafodwyd eisoes...', 'Ar ôl ystyried [...] yn awr byddwn yn ystyried…’

Pennu hyd a lled eich trafodaeth

Os oes cynnwys nad oes gennych y nifer geiriau i'w gynnwys, soniwch am hyn yn eich cyflwyniad. Bydd yn rhybuddio'ch darllenwyr beth na ddylent ei ddisgwyl. Gallwch ychwanegu brawddeg fel: ‘Mae cwmpas y traethawd hwn wedi'i gyfyngu i ...' "Cafodd y penderfyniad hwn ei wneud oherwydd ..." Cyn belled â'ch bod yn darparu rhesymau clir ac yn dal i fodloni canllawiau'r aseiniad, ni allwch fynd o'i le. Mae pennu hyd a lled traethawd yn grefft bwysig a bydd yn eich grymuso i ysgrifennu'n fwy perthnasol gyda ffocws pendant.