Mae argraff gyntaf yn bwysig. Rydym ni i gyd yn gwybod bod hyn yn wir pan fyddwn ni'n cwrdd â rhywun, ond mae'n wir pan fyddwn ni'n darllen hefyd.
Mae'r rhagarweiniadau rydych chi'n eu hysgrifennu ar gyfer eich traethodau yn 'argraff gyntaf' y bydd eich darlithydd yn ei chael o'ch gwaith. Os byddant wedi'u trefnu'n dda ac yn glir, byddant yn creu'r argraff gywir - h.y. eich bod wedi deall y pwnc. Os byddwch yn ysgrifennu rhagarweiniad da, byddwch wedi cymryd y cam cyntaf tuag at gael gradd dda.
Dechreuwch yn gyffredinol, ac yn raddol trowch yn fwy penodol.
Beth bynnag yw'r pwnc, bydd rhagarweiniad da fel arfer yn dechrau â datganiad sy'n rhoi'r cefndir neu’r wybodaeth gyd-destunol. Nid oes rhaid i hwn fod yn gyffredinoliad diflas - ceisiwch ei wneud yn fwy diddorol drwy ddechrau â dyfyniad perthynol, digwyddiad neu rywbeth arall a fydd yn eich galluogi i arwain yn hwylus at y pwnc. Hefyd, gallech ddiffinio termau allweddol yn y rhan hon o'r rhagarweiniad.
Mapiwch eich Traethawd
Dylai traethawd da roi syniad clir i’r darllenydd o’r hyn y mae ar fin darllen. Rhowch gyfeiriad i’ch darllenydd drwy restru’r pynciau y byddwch yn eu trafod yn eu trefn. Dywedwch sut y byddwch yn eu trin hefyd.
Datganiad Traethawd Ymchwil
Mae’r rhan fwyaf o ragarweiniadau da yn cynnwys datganiad traethawd ymchwil. Mae’r rhain yn mynegi eich safbwynt penodol chi ar y pwnc a’r ddadl rydych chi’n bwriadu ei chynnig. Byddwch chi’n ehangu ar ddatganiad eich traethawd ymchwil yn eich diweddglo.
Ysgrifennwch ef ar ôl popeth arall!
Wrth i chi ysgrifennu eich traethawd, efallai byddwch yn newid eich syniadau, yn ychwanegu neu’n dileu pwyntiau neu’n newid y drefn. Felly, mae’n syniad da ysgrifennu eich rhagarweiniad ar ôl popeth arall, gan y bydd gennych syniad llawer cliriach ynghylch ‘yr hyn y bydd y traethawd yn ei wneud’ pan fyddwch chi eisoes wedi’i ysgrifennu.