Gêm pêl fas

Un o’n mecanweithiau goroesi mwyaf effeithiol fel bodau dynol yw ein gallu i broffwydo. Rydym yn ei wneud drwy’r amser, yn gwneud cyfres o ragdybiaethau am sut fydd sefyllfa benodol cyn i ni gamu mewn iddi. Wrth arsylwi chwaraewyr pêl fas mae gwyddonwyr ym maes chwaraeon wedi sylwi ni all batiwr weld y bêl yn dod ato – maent yn proffwydo lle y dylid bwrw ar sail cyfres o arwyddion gan y taflwr. Gorau oll y gallai broffwydo gorau oll fydd ei berfformiad.

Nid yw hyn yn wir ar gyfer chwaraewyr pêl fas yn unig. Y gorau y gallwn broffwydo sefyllfa rydym ynddi – boed yn mynd i’r gwaith, cymryd rhan mewn seminar neu hyd yn oed gwylio ffilm, y mwyaf cyffyrddus y byddwn a bydd modd cyflawni pa bynnag dasg yn well.

Felly sut mae hyn yn gysylltiedig ag ysgrifennu?

Yr ateb yw gosod eich hun yn esgidiau eich darllenwr. Po fwyaf y gall broffwydo am eich ysgrifennu y mwyaf y bydd yn deall, prosesu a chofio am yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu.

Mae proffwydo yn gwneud bywyd yn haws a’r ysgrifenwyr gorau yw’r rhai sy’n ei gwneud yn haws i’r darllenydd broffwydo’r hyn sydd i ddod yn y testun. Sylwer nad ydym wedi dweud yr ysgrifenwyr academaidd gorau – mae’r rheol proffwydo hwn yn wir ar gyfer bron pob math o ysgrifennu, o negeseuon e-bost a negeseuon testun i adroddiadau ac erthyglau papurau newyddion. (Efallai mai ffuglen yw’r un eithriad lle y mae mwyafrif y gelfyddyd yn cynnwys peidio â datgelu’r wybodaeth gywir i gadw’r darllenydd i ddyfalu).

Dau gi yn cael eu cyflwyno

Felly sut allwch chi ei wneud yn haws i’r darllenwyr broffwydo’r hyn sydd i ddod

Rhywfaint o eiriau o gyngor (ar gyfer ysgrifennu academaidd) fyddai:

Rhagymadroddion a chrynodebau – Sicrhewch fod y rhain yn amlinellu eich dadl yn glir a’r llwybr y byddwch yn ei ddilyn i gyrraedd yno. Peidiwch â chadw gwybodaeth yn ôl ar gyfer y diweddglo – ar ôl darllen rhagymadrodd da yna dylai eich darllenydd wybod yn union i le y byddwch yn ei dywys erbyn diwedd y traethawd.

Penawdau Paragraffau – Hefyd a elwir yn frawddegau pwnc. Dylai brawddegau cyntaf eich paragraff amlinellu’n glir yr hyn y dylai’r darllenydd ei ddisgwyl dros y brawddegau dilynol. Felly, er enghraifft, pe bawn i’n dechrau paragraff trwy ysgrifennu ‘Mae Abertawe yn lle gwell i fyw na Chaerdydd am dri rheswm’ byddai’r hyn y byddwch yn ei ddisgwyl yn y paragraff nesaf yn amlwg. Mewn gwirionedd dylai fod yn bosib i ddarllenydd ddarllen y rhagymadrodd a ‘brawddegau pwnc’ eich traethawd yn unig i ddilyn eich trafodaeth.

Ar lefel brawddegau – Mae’r rheol proffwydo hefyd yn gweithio ar lefel brawddegau. Mae geiriau cysylltiol syml megis ‘fodd bynnag’, ‘serch hynny’ a ‘felly’ yn helpu eich darllenydd i broffwydo’r math o wybodaeth sy’n dod nesaf: a yw’n cyferbynnu â’r hyn a nodwyd eisoes neu’n ei atgyfnerthu; a yw’n cyflwyno pwynt newydd neu’n cadarnhau’r un rydych eisoes wedi’i wneud?

Pwysig

Un peth allweddol i’w nodi yma yw gwireddu eich addewidion. Os yw darllenydd yn aros am y tri rheswm hynny ac rydych yn rhoi dau yn unig iddo gall hynny achosi yr un dryswch a phe baech heb roi unrhyw gyfarwyddyd o gwbl.

Dyn dall yn cerdded gyda'i ffon

Arwain y Dall

Un gyfatebiaeth a ddefnyddir yn aml ar gyfer y syniad hwn yw dychmygu eich bod yn tywys person dall trwy adeilad prysur. Efallai y byddwch yn cydio yn ei law a rhoi arweiniad cyson iddo megis ‘Rydym yn mynd i gymryd tri cham ymlaen yna stopio. Rwy’n mynd i agor y drws, byddwn yn cerdded trwyddo ac yn troi i’r chwith.’ Dysgwch ddechrau meddwl am eich darllenydd yn yr un ffordd. Ar bob cam dylai fod yn sicr o le ei fod yn mynd a’r hyn y bydd yn ei wneud nesaf.

Y Tu Hwnt i’r Byd Academaidd

Fel yr ydym eisoes wedi’i adnabod, nid yw hyn ar gyfer ysgrifennu academaidd yn unig ond yn hytrach i’r mwyafrif o ysgrifennu a chyfathrebu rydych chi’n ei wneud. Rhowch linellau pwnc clir i’ch negeseuon e-bost sy’n crynhoi’r cynnwys a bydd eich ffrindiau a’ch cydweithwyr yn diolch i chi. Dechreuwch eich adroddiadau trwy grynodeb byr a bydd eich darllenwyr yn llawer mwy tebygol o ddeall y canlyniadau.

Defnyddiwch yr egwyddor hon ar gyfer pob peth rydych chi’n ei ysgrifennu a gwyliwch sut mae pobl eraill yn ysgrifennu – o bapurau newyddion i flogiau i gyfnodolion academaidd – gwnewch yr un peth.