Yn ystod apwyntiadau, yn aml bydd myfyrwyr yn gofyn beth allan nhw ei wneud i greu gwaith ysgrifenedig sy’n llai syml. Mae yna lawer o bethau y gellir eu gwneud i gynyddu'r cymhlethdod yn eich ysgrifennu, felly roeddwn i'n meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol postio am hyn yma. Yn gyntaf, gadewch i mi ymateb i gamsyniad cyffredin: mae gwneud ysgrifennu'n gymhleth yn wahanol i wneud yr ysgrifennu'n anodd ei ddarllen. Mae yna ystyr gadarnhaol i'r gair cymhleth (cynnwys llawer o rannau gwahanol a chysylltiedig) ac yn aml mae syniadau cymhleth yn gofyn am dechnegau ysgrifennu er mwyn mynegi'n effeithiol y berthynas rhwng pwyntiau rydych chi'n eu datblygu. Mae'r canlynol yn rhestr fer sy'n cynnig 3 awgrym ar sut gallwch chi wneud eich ysgrifennu’n gymhleth ac yn glir.
1. Defnyddio brawddegau cymhleth
Mae brawddeg gymhleth yn cynnwys o leiaf cymal dibynnol a chymal annibynnol mewn unrhyw drefn. Trwy ddefnyddio'r strwythur brawddegau hwn yn effeithiol, gellir mynegi'r berthynas rhwng syniadau yn ddealladwy ac yn gryno. Dylech chi amrywio safle'r cymalau fel nad yw'r strwythur yn cael ei ailadrodd yn rhy aml yn eich paragraffau.
*noder* Dylech chi geisio amrywio strwythur eich brawddegau drwy'r gwaith cyfan, gan y bydd hyn yn gwella 'llif' cyffredinol eich ysgrifennu.
2. Atalnodi
Mae atalnodi, sy'n cael ei gamddefnyddio'n aml, yn cyflawni swyddogaeth ddefnyddiol iawn. Os caiff ei ddefnyddio'n effeithiol, gall helpu i gyfleu'n glir yr ystyr a fwriadwyd gennych i'ch darllenydd. Os caiff ei gamddefnyddio, gall newid ystyr yr hyn rydych chi'n ei ysgrifennu.
3. Nominaliaeth
Mae hon yn dechneg a ddefnyddir i gael gwared â'r annibendod yn eich gwaith. Yn syml, mae'n ymwneud â chyfleu'r ystyr yn gryno. Ystyriwch yr enghraifft ganlynol:
gallai'r clefyd sy'n effeithio ar y system gardiofasgwlaidd newid i'r clefyd cardiofasgwlaidd
Mae rhai awduron yn tueddu i ysgrifennu gormod o eiriau wrth geisio mynegi syniad. Y canlyniadau yw: llai o eiriau i fynegi rhagor o feddyliau a brawddegau cymhleth. Ceisiwch fod yn gryno wrth ysgrifennu.
Gellir cael golwg fanylach ar hyn yn llyfr Chris Sowton.