Dyn yn darllen ar fainc arfordirol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dod i’r Canolfan Llwyddiant Academaidd oherwydd eu bod am gryfhau eu sgiliau ysgrifennu. Maen nhw'n aml yn dweud eu bod nhw’n teimlo diffyg hyder o ran ysgrifennu ac maen nhw'n poeni am eu gramadeg. Mae rhai wedi derbyn adborth gan diwtoriaid ac o waith a farciwyd yn flaenorol yn dweud bod ganddyn nhw broblem gyda gramadeg. Mae eraill yn fyfyrwyr rhyngwladol sy'n gorfod ysgrifennu mewn ail iaith. Er y gall tiwtoriaid helpu i nodi camgymeriadau gramadegol, ac addysgu myfyrwyr sut i'w hadnabod a'u datrys, yn aml yr hyn sydd ei angen yw ymarfer rheolaidd. Mae cannoedd o wefannau a gweithlyfrau ar gael y gall myfyrwyr lafurio drostyn nhw yn dysgu am ramadeg, fodd bynnag, un dull, sy'n cael ei anwybyddu'n aml iawn, o wella gramadeg yw darllen er pleser. Beth? Darllen er pleser i ddod yn awdur gwell? Ie! Yn wir, canfu'r National Literacy Trust fod darllen er pleser yn cynnwys llawer o fuddion academaidd. Mae eu hadroddiad yn esbonio:

When children read for pleasure, when they get “hooked on books”, they

acquire, involuntarily and without conscious effort, nearly all of the so-called

“language skills” many people are so concerned about: they will become

adequate readers, acquire a large vocabulary, develop the ability to

understand and use complex grammatical constructions, develop a good

writing style, and become good (but not necessarily perfect) spellers.

Although free voluntary reading alone will not ensure attainment of the

highest levels of literacy, it will at least ensure an acceptable level.

 

Gallwch chi ddarllen yr adroddiad cyfan yma: Literacy Trust

Plentyn yn darllen llyfr

Efallai eich bod chi'n meddwl...

“ond dydw i ddim yn blentyn... mae'n rhy hwyr i mi”.

Dyw hynny ddim yn wir! Trwy ymwneud yn rheolaidd â'r iaith Saesneg mewn ffurf ysgrifenedig byddwch chi'n cael teimlad naturiol am lif yr iaith. Mewn gwirionedd, mae adroddiad y National Literacy Trust yn dadlau nad yw hi byth yn rhy hwyr i elwa o ddarllen er pleser.

Felly, ewch i'r llyfrgell a dewis llyfr rydych chi am ei ddarllen. Ddim yn siŵr beth i'w ddewis? Mae Goodreads wedi llunio rhestrau o hoff lyfrau darllenwyr a drefnwyd yn ôl genre dros y chwe blynedd diwethaf. Os yw hynny'n ormod i fynd drwyddo, gallwch chi hefyd roi “nofelau dirgelwch gorau 2024” yn google er enghraifft ac fe welwch chi fod llawer o wefannau wedi llunio rhestrau o'u ffefrynnau.

Wrth i chi barhau i weithio tuag at fod y myfyriwr gorau y gallwch chi fod, daliwch ati i ddod â'ch papurau a'ch ymholiadau atom ni yn y Ganolfan Llwyddiant Academaidd, ond cofiwch ddarllen er pleser hefyd. Mae'n ddifyr ac yn fuddiol!