Mae canran sylweddol o'r gwaith a wnawn yn y Ganolfen Llwyddiant Academaidd yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr i wella eu hysgrifennu. Mae dosbarthiadau mewn Ysgrifennu Academaidd a Gramadeg yn llawn drwy gydol y flwyddyn, ac mae ein hapwyntiadau un i un dyddiol yn tueddu i ymwneud â dadansoddi a gwella traethodau ysgrifenedig.
Mae llawer o fyfyrwyr yn ystyried darllen ac ysgrifennu fel dau endid ar wahân; maen nhw'n gwneud eu holl waith darllen yn gyntaf, yn gwneud nodiadau ac yna'n poeni am sut maen nhw'n mynd i wasgu'r cyfan i mewn i draethawd yn nes ymlaen. Fe wnaeth ffrind a myfyriwr aeddfed sy'n gweithio ar ei draethawd hir ar hyn o bryd ddangos techneg fwy buddiol i mi. Mae'n ddull rwyf wedi bod yn ei annog yn y gweithdai darllen rydyn ni'n eu darparu, ond roedd yn wych ei weld yn cael ei ddefnyddio, a gweld pa mor effeithiol oedd e. Pam ddylai fod o ddiddordeb i chi? Ar wahân i unrhyw beth arall, mae'n arbed llawer iawn o amser.
Isod mae canllaw cam wrth gam i ddarllen mwy effeithiol a fydd yn gwella eich ysgrifennu.
1. Dewiswch eich teitl yn gyntaf. Mae hyn yn llawer mwy effeithiol na darllen drwy eich holl ddeunydd ffynhonnell a phenderfynu ar deitl yn nes ymlaen gan ei fod yn eich helpu i gael ffocws ar eich darllen o gam cynnar. Cofiwch, anaml iawn y mae'n rhaid i chi ddarllen popeth – defnyddiwch y mynegeion, penawdau penodau a hyd yn oed linellau agoriadol pob paragraff i'ch helpu i benderfynu a yw deunydd yn berthnasol.
2. Ysgrifennwch gynllun eich traethawd cyn i chi ddechrau darllen. Efallai bod hyn yn swnio'n rhyfedd, oherwydd wrth reswm allwch chi ddim gwybod beth rydych chi'n mynd i'w ysgrifennu cyn i chi wneud eich gwaith ymchwil. Ond ychydig iawn o gwestiynau sydd yna na fyddwch chi'n gallu dyfeisio cynllun sylfaenol ar eu cyfer o'r meysydd rydych chi am eu cynnwys.
3. Wrth i chi ddarllen, gwnewch grynodebau byr o'r pwyntiau pwysicaf ar gardiau post ar wahân. Yn eich geiriau eich hun, ysgrifennwch y prif bwyntiau, unrhyw ddyfyniadau defnyddiol, enw'r awdur a'r flwyddyn. Dylai nodiadau sydd wedi'u cymryd yn dda gynnwys crynodeb o'r prif bwyntiau a manylion cyfeirio.
Gyda llaw, mae gwneud crynodebau byr yn llawer mwy effeithiol na thanlinellu testun yn unig gan eich bod yn ymgysylltu â'r deunydd mewn ffordd fwy creadigol. Bydd yn eich helpu pan fyddwch chi’n ysgrifennu'r traethawd hefyd.
4. Trefnwch eich crynodebau yn ôl rhannau cyfatebol o gynllun eich traethawd. Efallai y byddwch chi'n newid cynllun eich traethawd wrth i chi ddarllen mwy a chael syniadau newydd. Mae hyn yn iawn – dim ond gwneud ffeil newydd sydd angen a rhoi'r nodiadau perthnasol ynddi.
5. Gosodwch y nodiadau rydych chi wedi'u gwneud ar gyfer pob rhan o'ch traethawd ar fwrdd mawr neu ar y llawr. Os ydych chi wedi targedu eich darllen yn llwyddiannus, dylai fod gennych nifer digonol o 'gardiau post' ar gyfer pob adran o'r traethawd. Byddwch chi'n gallu gweld yn eithaf hawdd hefyd a oes angen i chi wneud mwy o ddarllen ar gyfer adran benodol. Efallai y bydd yn edrych fel hyn:
6. Nawr mae'n amser ysgrifennu! Ond yn hytrach na chrafu'ch pen yn ceisio cofio beth wnaethoch chi ei ddarllen yr wythnos ddiwethaf a sganio trwy eich nodiadau am y dyfyniad gwych hwnnw rydych chi'n gwybod eich bod wedi ei ysgrifennu yn rhywle, mae popeth yno o'ch blaen! Fel y dywedodd fy ffrind:
“Y cyfan sy'n rhaid i mi ei wneud yw cyfuno'r pwyntiau a'r dyfyniadau yn fy ngeiriau fy hun. Yr ysgrifennu yw'r darn hawdd!”