Meddyliwch am y cwestiwn wrth ddarllen
Yn union yr un ffordd ag ysgrifennu gan feddwl am deitl y traethawd, dylai’r cwestiwn rydych yn gweithio arno lywio eich gwaith darllen hefyd.
Cyn i chi ymdrochi yn eich llyfrau, mae’n werth treulio amser yn meddwl am sut rydych chi am ateb y cwestiwn. Lluniwch gynllun bras Torrwch eich ateb yn ddarnau, yna ewch ati i ddarllen mewn ffordd sy’n targedu ystod gyfartal o ddeunydd sy’n perthyn i bob rhan o’r traethawd.
Mae’n amlwg y bydd yn rhaid i chi fod yn hyblyg wrth ddefnyddio’r ymagwedd hon, oherwydd ei bod hi’n bosibl y byddwch yn penderfynu newid eich ymagwedd i’r cwestiwn yn ystod eich ymchwil.
Nodwch y darnau allweddol
Dyma gyfrinach fach i chi. Prin iawn y bydd yn rhaid i chi ddarllen testun cyfan er mwyn dod o hyd i’r wybodaeth y mae ei hangen arnoch. Ar ôl i chi benderfynu ar y termau allweddol ar gyfer eich traethawd, dylech chi dreulio amser yn cael gafael ar y rhannau o’ch rhestr ddarllen a fydd yn fwyaf perthnasol i chi. Dyma ychydig o dechnegau y gallwch eu defnyddio er mwyn dod o hyd i ddarnau mewn testun a fydd yn allweddol i’ch traethawd.
Nid oes modd i chi osgoi’r ffaith y bydd yn rhaid i chi ddarllen yn fanylach rywbryd. Ar ôl i chi ddod o hyd i’r testun sy’n debygol o fod yn fwyaf defnyddio i chi drwy ddefnyddio’r technegau uchod, mae’n bryd mynd ati a darllen o ddifrif.
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch gwaith darllen, dylech chi geisio ymgysylltu â’r testun gymaint â phosibl. Mae hyn yn cynnwys cymryd nodiadau, ond ceir ffyrdd effeithiol a ffyrdd llai effeithiol o gymryd nodiadau wrth i chi ddarllen. Dyma ychydig o awgrymiadau:
- Yn gyntaf, darllenwch y testun cyfan unwaith heb gymryd nodiadau. Mae gormod o fyfyrwyr yn dechrau tanlinellu popeth ar unwaith. Mae hyn yn gallu ei gwneud hi’n anodd gwahaniaethu rhwng pwyntiau pwysig iawn a phwyntiau nad ydynt mor bwysig. Y tro cyntaf y byddwch yn darllen rhywbeth, rhowch eich aroleuydd i lawr.
- Gwahaniaethwch rhwng elfennau gwahanol y testun.Os byddwch yn defnyddio’r un lliw i danlinellu popeth sydd o bwys mewn testun, mae’n gallu ei gwneud hi’n anodd iawn dychwelyd at yr wybodaeth pan fydd ei hangen arnoch. Gallech ddefnyddio un lliw i aroleuo dadleuon o blaid testun a lliw arall ar gyfer dadleuon yn ei erbyn, neu roi blychau o amgylch ffynonellau defnyddiol.
- Crynhoi. Un o’r technegau darllen mwyaf defnyddiol yw crynhoi pwynt neu ddadl yn eich geiriau eich hun wrth i chi fynd. Gallai hyn fod ar ffurf nodyn ar ochr y dudalen neu ar nodyn post-it ar y dudalen. Pan fyddwch wedi gorffen darllen rhan o destun, dylech chi ysgrifennu crynodeb byr o bopeth. Drwy ymgysylltu â’r testun yn y ffordd hon, rydych chi wir yn dechrau ei ddeall. Hefyd, gall fod yn ddefnyddiol nodi a ydych chi’n cytuno â’r hyn a ddywedir, neu beidio.
Yn amlwg, mae’r gwaith darllen ar gyfer pob maes pwnc gwahanol yn amrywio mewn rhyw ffordd, ond wrth ddefnyddio’r technegau uchod dylech chi deimlo llai o ofid y tro nesaf y byddwch yn derbyn rhestr ddarllen dwy dudalen o hyd gan eich darlithydd!